Byddai buddugoliaeth i Forgannwg yn erbyn Gwlad yr Haf yn Stadiwm Swalec heno yn golygu bod y Cymry un cam yn nes at gyrraedd wyth ola’r T20 Blast.
Ar y llaw arall, dim ond tair buddugoliaeth gafodd yr ymwelwyr hyd yn hyn mewn wyth o gemau ac maen nhw’n olaf ond un yn y tabl.
Pan gyfarfu’r ddwy sir fis diwethaf yn Taunton, Morgannwg oedd yn fuddugol o saith rhediad.
Morgannwg oedd yn fuddugol o naw wiced yn yr ornest yng Nghaerdydd y tymor diwethaf, wrth i Graham Wagg gipio tair wiced am 29.
Roedd y glaw yn drech na’r ddwy sir yn 2012 ond Gwlad yr Haf oedd yn fuddugol yn y Swalec yn 2010 a 2011.
Dydy Morgannwg ddim wedi gwneud unrhyw newidiadau i’r garfan 13 dyn a drechodd Swydd Middlesex yn Richmond neithiwr.
Mae Gwlad yr Haf wedi cynnwys y bowliwr Tim Groenewald sydd ar fenthyg o Swydd Derby, cyn-gapten Morgannwg Alviro Petersen a’r bowliwr cyflym Dirk Nannes wnaeth dynnu allan o drosglwyddiad i Forgannwg ar gyfer y gystadleuaeth hon y tymor diwethaf yn dilyn anaf.
Carfan 13 dyn Morgannwg: J Allenby (capten), J Rudolph, M Wallace, S Walters, C Cooke, B Wright, W Bragg, M Goodwin, A Salter, W Owen, R Smith, D Cosker, M Hogan
Carfan 13 dyn Gwlad yr Haf: M Trescothick (capten), J Hildreth, J Burke, G Dockrell, L Gregory, T Groenewald, C Kieswetter, D Nannes, C Overton, A Petersen, A Thomas, P Trego, M Waller