Mae rheolwr QPR Harry Redknapp wedi cadarnhau bod ei glwb wedi cytuno pris ar gyfer prynu’r amddiffynnwr uchel ei barch Steven Caulker.

Yn ôl rhai mae cyn-amddiffynnwr Spurs werth £8miliwn, ac ers i Gaerdydd syrthio o Uwch Gynghrair Lloegr mae sôn bod Lerpwl, Everton a Southampton eisiau ei brynu.

Ond mae Harry Redknapp yn gobeithio y bydd y chwaraewr 22 oed yn dewis QPR.

“Rydan ni wedi cytuno’r pris gyda Chaerdydd ac yn aros i Steven benderfynu beth fydd o’n wneud,” meddai Redknapp sydd wedi gweithio gyda Steven Caulker o’r blaen.

“Rydw i’n ei adnabod yn dda ers ei gyfnod gyda Spurs ac mae wastad wedi addo cymaint. Y gobaith yw ei fod yn un arall y medrwn ni ddenu yma.”

Mae Rio Ferdinand, cyn-gapten Lloegr a chwaraewr Man U, wedi cytuno i ymuno gyda QPR, ac mae’r clwb yn gobeithio taro bargen derfynol gyda’r amddiffynnwr 35 oed pan ddaw adref o Gwpan y Byd.