Canred i Jim Allenby heno
Sgoriodd capten Morgannwg, Jim Allenby 105 oddi ar 63 o belenni wrth i’r Cymry guro Pantherod Swydd Middlesex o chwe wiced yn Richmond heno.
Hwn oedd yr ail sgôr unigol uchaf erioed i Forgannwg yn y T20, y tu ôl i Ian Thomas.
Wrth anelu am 185 am y fuddugoliaeth, cyrhaeddodd Morgannwg y nod gyda thair pelen o’r batiad yn weddill i gipio’r pwyntiau.
Cyfrannodd Jacques Rudolph 42 i’r cyfanswm ar ddechrau’r batiad mewn partneriaeth agoriadol o 136 sy’n record i Forgannwg yn y T20.
Ond i’r Pantherod, doedd partneriaeth o 76 rhwng Eoin Morgan a Dawid Malan ddim yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth.
Y Cyfnod Clatsio
Morgannwg gafodd y gorau o’r cyfnod clatsio, wedi iddyn nhw adeiladu blaenoriaeth o 17 o ystyried chwe phelawd gynta’r ddau fatiad.
Dechrau digon tawel gafodd y Pantherod ar ddechrau’r ornest wrth i’r troellwyr Andrew Salter a Jacques Rudolph i’w cyfyngu i 9 oddi ar ddwy belawd, gyda’r agorwr Joe Denly yn dychwelyd i’r cwtsh yn gynnar yn y batiad, wedi’i ddal gan Stewart Walters.
Cadwodd y bowliwr cyflym Michael Hogan gyfanswm y Saeson i lawr, gan ildio un rhediad cyn i fatiwr agoriadol Lloegr, Eoin Morgan daro Will Owen am bedwar yn belawd nesaf, wrth i’r Pantherod gyrraedd 17-1 wedi pedair pelawd.
Dechreuodd y clatsio go iawn yn y bedwaredd belawd, wrth i Hogan gael ei daro am bedwar a chwech gan Morgan, y Pantherod yn dechrau cyflymu eu cyfradd sgorio.
Parhau wnaeth y clatsio yn y bumed hefyd, wrth i Morgan gael ei afael ar Hogan a’i daro am bedwar a chwech wrth i’r cyfanswm gyrraedd 29-1.
Tarodd Morgan ddau bedwar ac un chwech unwaith eto i gloi’r cyfnod clatsio ac i gynyddu rhwystredigaeth Allenby a Morgannwg – y cyfanswm yn 40-1 wedi chwe phelawd.
Wrth ymateb, roedd hi’n amlwg o’r dechrau bod Morgannwg yn barod am yr her ac fe darodd Jim Allenby bedwar oddi ar gyn-fowliwr Morgannwg, James Harris i agor y sgorio, wrth i’r Cymry gyrraedd 7-0 ar ddiwedd y belawd.
Chwe rhediad ddaeth oddi ar belawd gyntaf Harry Podmore cyn i Harris ddioddef yn y drydedd belawd, wedi’i daro gan Allenby am ddau bedwar ac un chwech mewn pelawd oedd wedi costio 14 i’r Pantherod, wrth i Forgannwg symud ymlaen i 27-0.
Daeth newid yn y bowlio a’r cyflymdra yn y bedwaredd belawd, wrth i’r Pantherod gyflwyno Dan Christian i’r ymosod, a hwnnw’n ildio chwe rhediad yn unig.
Ond o ddrwg i waeth aeth pethau i Podmore yn y bumed pelawd, wrth i Allenby ei daro am bedwar pedwar yn y belawd a Morgannwg bellach yn 49-0 ac yn dechrau edrych yn gyfforddus.
Christian fowliodd belawd ola’r cyfnod clatsio a chael ei daro am bedwar gan Rudolph wrth i Forgannwg gyrraedd 57-0.
Y pelawdau canol
Roedd y bwlch rhwng y ddwy sir ychydig yn llai yn y pelawdau canol ond ar y cyfan, y Cymry gafodd y gorau o’r rheiny hefyd.
Daeth 13 o rediadau oddi ar seithfed pelawd y Pantherod, wrth i’r troellwr ifanc Andrew Salter gael ei daro am chwech gan Dawid Malan, ac fe ddilynodd Allenby gyda phelawd dynn yn yr wythfed wrth i’r Pantherod gyrraedd 60-1.
Ond dioddefodd y bowliwr cyflym Will Owen yn y nawfed, gan ildio dwy ergyd i’r ffin am bedwar ac un ergyd am chwech gan Eoin Morgan wrth i’r Saeson gyrraedd 77-1.
Ond daeth llwyddiant i’r troellwr llaw chwith Dean Cosker yn y ddegfed, wrth i Morgan gael ei ddal gan Hogan am 41, y Pantherod bellach yn 83-2.
Ildiodd Allenby chwe rhediad yn unig oddi ar yr unfed belawd ar ddeg cyn i Cosker gadw’r pwysau ar y Pantherod o’r pen arall yn y ddeuddegfed, gan ildio pum rhediad yn unig – y cyfanswm bellach yn 94-2.
Owen fowliodd y drydedd belawd ar ddeg ac ildio tri rhediad yn unig cyn i’r Pantherod gyrraedd y cant oddi ar y bedwaredd belawd ar ddeg, wedi’i bowlio gan Salter, oedd yn cynnwys un pedwar i Malan a chyfle i Forgannwg ei redeg allan tra roedd e ar 38.
Dioddefodd Cosker yn y bymthegfed pelawd, wrth i Dan Christian ei daro am ddau chwech yn olynol, gyda’r cyfanswm bellach yn 126-2.
Tarodd Rudolph bedwar oddi ar y troellwr Neil Dexter yn y seithfed pelawd wrth i Forgannwg ddechrau ymlacio ychydig ar ddiwedd y cyfnod clatsio, y cyfanswm yn 62-0 wedi’r seithfed.
Penderfynodd Rudolph dargedu Ravi Patel yn yr wythfed belawd, a’i daro am ddau bedwar wrth i Forgannwg wibio i 73-0.
Ildiodd Dexter saith rhediad yn y nawfed belawd cyn i Patel gael ei ddisodli gan Ollie Rayner yn y ddegfed, ond fawr o lwc gafodd yntau chwaith, wrth i Allenby a Rudolph daro pedwar yr un cyn i’r Pantherod ildio pedwar heibiad i symud cyfanswm Morgannwg i 93-0 hanner ffordd trwy’r batiad.
Daeth 13 o rediadau oddi ar yr unfed belawd ar ddeg gan Dexter, wrth i Allenby barhau i glatsio – un pedwar ac un chwech yn symud y cyfanswm i 106-0.
Tarodd Rayner yn ôl ychydig yn y ddeuddegfed, ond fe lwyddodd Allenby i gadw’r pwysau ar y bowliwr wrth ei daro am bedwar, y Cymry bellach yn 113-0.
Dychwelodd Christian i’r ymosod yn y drydedd belawd ar ddeg, ond fe gafodd hwnnw ei glatsio i bob cyfeiriad hefyd, wrth i Allenby ychwanegu pedwar a chwech at gyfanswm Morgannwg, y Cymry’n edrych yn hollol gyfforddus ar 128-0 gyda saith pelawd yn weddill.
Rayner fowliodd y bedwaredd belawd ar ddeg gan ildio wyth rhediad, gan gynnwys pedwar gan Allenby.
Daeth llwyddiant o’r diwedd i’r Pantherod yn y bymthegfed, wrth i Pater ddal Rudolph oddi ar Dexter am 42, gan roi terfyn ar record o bartneriaeth wiced gyntaf o 136 am y wiced gyntaf.
Roedd batiad Rudolph yn cynnwys pum pedwar oddi ar 35 o belenni.
Ar ddiwedd y bymthegfed pelawd, roedd Morgannwg yn 141-1, yn wynebu’r dasg o daro 44 oddi ar y bum pelawd olaf i sicrhau’r fuddugoliaeth.
Y pelawdau clo
Cyrhaeddodd Malan ei hanner cant i’r Pantherod yn yr unfed belawd ar bymtheg, gafodd ei bowlio gan Rudolph, mewn batiad oedd yn cynnwys pedwar pedwar ac un chwech oddi ar 38 o belenni, a’r Pantherod yn 136-2 gyda phedair pelawd yn weddill.
Tarodd Christian ddau chwech a phedwar oddi ar Hogan yn yr ail belawd ar bymtheg wrth i’r Pantherod groesi’r cant a hanner, ond buan y dychwelodd Christian i’r cwtsh, wedi’i ddal gan Cooke ar y ffin wrth anelu am yr ergyd fawr.
Roedd Christian allan am 48, felly, mewn batiad oedd yn cynnwys un pedwar a phump ergyd am chwech.
Daeth saith rhediad oddi ar y ddeunawfed belawd, wedi’i bowlio gan Cosker, cyn i Owen gael ei daro am ddau chwech – un gan Ryan Higgins a’r llall gan Malan a chyfanswm y Pantherod yn 176-3 gydag un belawd yn weddill.
Hogan fowliodd yr ugeinfed belawd a chael ei daro am bedwar gan Higgins cyn i’r batiad ddod i ben gyda Malan heb fod allan ar 68 oddi ar 47 o belenni mewn batiad oedd yn cynnwys pum pedwar a dau chwech.
Gyda nod o 44 oddi ar bum pelawd am y fuddugoliaeth, dechreuodd y pelawdau clo’n siomedig i Forgannwg, wrth i Patel ildio pum rhediad.
Ond gyda’r batiwr-wicedwr Mark Wallace bellach wrth y llain, fe ddechreuodd y clatsio unwaith eto, wrth i’r batiwr llaw chwith daro tri phedwar oddi ar y Cymro Harris yn yr ail belawd ar bymtheg, y cyfanswm bellach yn 161-1.
Ond cafodd y Cymry fraw yn y ddeunawfed belawd, wrth i Podmore gipio wiced Wallace, oedd wedi’i ddal gan Rayner am 18, a chyfanswm Morgannwg yn 166-2 gyda dwy belawd yn weddill.
Y belawd olaf ond un oedd yr un dyngedfennol i Forgannwg wrth i Harris gael ei daro am 13 o rediadau, er i Allenby golli ei wiced o’r diwedd.
Ond erbyn i Allenby ddychwelyd i’r cwtsh wedi sgorio 105 oddi ar 63 o belenni (14 pedwar a thri chwech), roedd y Cymry bron yn sicr o’r fuddugoliaeth gyda phelawd yn weddill.
Dilynodd Ben Wright yn fuan wedyn hefyd, wedi’i ddal gan Joe Denly heb sgorio, y Cymry’n 175-4.
Gyda nod o chwe rhediad oddi ar chwe phelen ola’r batiad, daeth y rhediadau buddugol gyda thair pelen yn weddill, sy’n golygu bod Morgannwg yn codi i’r pedwerydd safle yn y tabl.