Dim ond diwrnod sydd i fynd nes dechrau Cwpan y Byd ac mae’r cyffro’n cynyddu’n barod – gan gynnwys yma yn HQ golwg360.

Ni fydd Cymru yno wrth gwrs, ar ôl iddyn nhw orffen eu tymor gyda gêm gyfeillgar allan yn Amsterdam yn erbyn yr Iseldiroedd yn ddiweddar.

Ond gyda gwledd o bêl-droed ar y ffordd dros y mis nesaf Owain Schiavone, Iolo Cheung a Rhys Evans sydd yn ôl i drafod y diweddaraf ym myd y bêl gron.

Mae’r tri yn bwrw golwg dros berfformiad Cymru yn y gêm gyfeillgar, pwy wnaeth argraff a beth ddysgon ni o’r ornest.

Yn ogystal â hynny maen nhw’n edrych ymlaen at rai o gemau agoriadol Cwpan y Byd, gan gynnwys Brasil v Croatia, Sbaen v Yr Iseldiroedd, Lloegr v Yr Eidal a’r Almaen v Portiwgal.

Mae’r tri wedi darogan enillwyr gwahanol fel y tîm fydd yn fuddugol ar 13 Gorffennaf – felly pwy fydd yn iawn tybed?