Bydd Cymru’n dechrau eu hymgyrch ragbrofol i geisio cyrraedd Ewro 2016 ar gae artiffisial pan fyddwn nhw’n herio Andorra ym mis Medi.
Heddiw fe gadarnhaodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru y byddai’r gêm yn cael ei chwarae ar gae 3G yn Andorra, sydd yn rhan o stadiwm newydd sydd yn cael ei adeiladu.
Mae disgwyl y bydd y stadiwm newydd yn dal hyd at 4,000 o bobl, gyda Chymru’n gobeithio y bydd hyd at 1,000 o’r tocynnau hynny ar gael i’w cefnogwyr nhw.
Mae lle i 850 o bobl yn unig ym maes presennol y tîm cenedlaethol, Estadi Comunal d’Andorra la Vella.
Gwlad fechan fynyddig llai nag Ynys Môn yw Andorra, ar y ffin rhwng Sbaen a Ffrainc ddim yn bell o Barcelona, â phoblogaeth o tua 85,000.
Dim ond un gêm gystadleuol mae’r tîm cenedlaethol wedi ennill yn eu hanes, ac yn y gorffennol maen nhw wedi cynnal gemau ‘cartref’ yn Barcelona oherwydd y diffyg lle yn eu stadiwm nhw.
Y daith i herio Andorra ar 9 Medi fydd gêm gyntaf Cymru <http://www.golwg360.com/chwaraeon/pel-droed/138473-cymru-n-dechrau-i-ffwrdd-yn-andorra> yn y grŵp rhagbrofol Ewro 2016 <http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/138423-gwlad-belg-eto-yng-ngrwp-ewro-2016-cymru>, gyda gemau yn erbyn Gwlad Belg, Bosnia-Herzegovina, Israel a Cyprus i ddod hefyd.
Roedd rheolwr Cymru Chris Coleman eisoes wedi mynegi pryder y byddai’r tîm yn gorfod chwarae ar gae artiffisial, gan ddweud bod cae o’r fath yn rhoi mwy o straen ar y chwaraewyr.