Mae disgwyl cyhoeddiad y prynhawn ma ynghylch pwy fydd yn arwain tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Glasgow fis nesaf.

Mae digwyddiad arbennig yn cael ei gynnal yn Stadiwm Swalec yng Nghaerdydd am 4yp.

Mae enwau dros 100 o athletwyr llwyddiannus fydd yn cynrychioli Cymru wedi’u cyhoeddi hyd yma.

Ymhlith yr athletwyr fydd yn bresennol y prynhawn ma mae Dai Greene, Helen Jenkins ac Aled Siôn Davies.

Bydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn eu hannerch wrth iddyn nhw baratoi i gystadlu ymhen saith wythnos.

Chef de Mission tîm Cymru yw Brian Davies, sydd yn Rheolwr Perfformiad Elit Chwaraeon Cymru.

Dywedodd mewn datganiad: “Mae’n anrhydedd fawr i fi gael fy mhenodi’n Chef de Mission ar gyfer y tîm.

Ychwanegodd ei fod yn edrych ymlaen at yr her a’i fod yn “hyderus y gallwn ni greu Gemau gwych i Gymru”.

“Hoffwn achub ar y cyfle i ddymuno’n dda i’r holl athletwyr.”

Cyn y digwyddiad, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ei fod yn “dymuno pob lwc enfawr i’r tîm cyfan”.