Mae prif hyfforddwr hoci dynion Cymru, Zak Jones, wedi enwi’r 16 chwaraewr a fydd yn cystadlu i Dîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yng Nglasgow.

Ar wahân i Huw Jones, brawd yr hyfforddwr a’r chwaraewr â’r mwyaf o gapiau, mae’r tîm llawn aelodau sydd heb gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad o’r blaen.

James a Daniel Kyriakides yw’r brodyr eraill yn y tîm sydd yn cynnwys mab cyn-gapten Cymru a Phrydain Fawr David Prosser, Lewis Prosser.

Methodd y tîm ag ennill lle yng Ngemau’r Gymanwlad yn Dehli ym 2010 ac ym Melbourne yn 2006.

“Mae’r dewis terfynol o’r 16 sydd am gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad wedi bod yn hynod o anodd,” meddai Zak Jones. “Mae’r Gemau yn cynnig cyfle gwych i’r chwaraewyr brofi eu hunain yn erbyn rhai o’r gwledydd gorau yn y byd.”

Dywedodd Chris Jenkins, Prif Weithredwr Cyngor Gemau’r Gymanwlad Cymru: “Rwy’n edrych ymlaen at weld y garfan yn tynnu ar eu crys Cymru a chystadlu dros Gymru ymhen ychydig wythnosau.”

Tîm Hoci Dynion Cymru – David Kettle, James Kyriakides, Michael Shaw, Benjamin Carless, Peter Swainson, Richard Gay, Lewis Prosser, Liam Bringull, Matthew Ruxton, Huw Jones, Owain Dolan-Gray, Rhys Gowman, Nicholas Rees, Andrew Cronick, Gareth Furlong, Daniel Kyriakides.