Emur Huws
Mae Abertawe’n un o lond llaw o glybiau’r Uwch Gynghrair sydd â diddordeb mewn arwyddo Emyr Huws ar fenthyg y tymor nesaf, yn ôl adroddiadau.

Cafodd y Cymro gyfnod ar fenthyg gyda Birmingham yn y Bencampwriaeth y tymor diwethaf, gan greu argraff yno a chwarae’n rheolaidd.

Gyda sôn y gall ei glwb Manchester City adael iddo fynd ar fenthyg i glwb ar lefel uwch eleni, mae’n ymddangos bod hynny wedi procio diddordeb clybiau gan gynnwys Abertawe, Stoke, Crystal Palace, Caerlŷr a Burnley.

Byddai Huws, a enillodd ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn Gwlad yr Ia ym mis Mawrth, yn gartrefol tu hwnt petai’n symud i Stadiwm Liberty am y tymor.

Dechreuodd y gŵr 20 oed o Lanelli ei yrfa fel chwaraewr ieuenctid gydag Abertawe, cyn symud i Fanceinion pan oedd yn 15.

Daw’r sôn am Huws yn fuan wedi i Gymro arall, Jonathan Williams, gadarnhau fod Abertawe wedi mynegi diddordeb yn ei arwyddo ar gyfer y tymor nesaf.

Roedd cyfleoedd Williams gyda Crystal Palace yn brin y tymor diwethaf, gyda’r asgellwr yn symud i Ipswich am gyfnod er mwyn chwarae’n fwy rheolaidd.

Ac fe awgrymodd rheolwr Cymru Chris Coleman yn ddiweddar y byddai symud i Abertawe yn gweddu arddull chwarae’r clwb a’r chwaraewr.