Ashley Williams
Mae adroddiadau’n awgrymu y gallai Abertawe a Chaerdydd golli rhai o’u sêr i glybiau mwyaf Lloegr yn ystod yr haf.

Eisoes, bu cryn drafod am ddyfodol capten Abertawe, Ashley Williams wedi i drafodaethau am gytundeb newydd ddod i ben.

Mae e wedi’i gysylltu â Lerpwl a’i gyn-reolwr Brendan Rodgers, yn ogystal ag Arsenal, sy’n barod i dalu £3 miliwn am ei wasanaethau, yn ôl WalesOnline.

Mae Arsenal a Spurs hefyd yn awyddus i arwyddo golwr Caerdydd, David Marshall, a gafodd ei ganmol yn fawr cyn i Gaerdydd ddisgyn o’r Uwch Gynghrair.

Hefyd ar restr siopa Arsenal mae golwr Abertawe, Michel Vorm.

Pe bai Vorm yn gadael y Liberty, fe allai golwr Arsenal Lukasz Fabianski fynd i’r Liberty yn ei le.

Ond fe fydd Arsenal yn wynebu cystadleuaeth o du Lerpwl, sydd hefyd yn awyddus i sicrhau llofnod capten Caerdydd, Steven Caulker cyn dechrau’r tymor nesaf.

Mae lle i gredu bod pris o £7 miliwn wedi’i osod gan Abertawe ar gyfer Vorm.