Michael Laudrup
Mae cyn-reolwr Abertawe, Michael Laudrup a chyn-reolwr Caerdydd, Malky Mackay yn ddau o’r enwau sy’n cael eu cysylltu â swydd rheolwr Southampton.

Mae Southampton yn chwilio am reolwr newydd yn dilyn penodi Mauricio Pochettino yn rheolwr newydd Spurs.

Mae Pochettino yn disodli Tim Sherwood, a gafodd ei ddiswyddo ar ddiwedd y tymor.

Mae Laudrup yn ddi-waith ers i Abertawe ei ddiswyddo’r tymor diwethaf, ac mae e eisoes wedi profi ei allu wrth arwain yr Elyrch i fuddugoliaeth yn ffeinal Cwpan Capital One a chyfnod yng Nghynghrair Europa.

Yn gynharach yr wythnos hon, daeth cadarnhad fod Laudrup wedi dod i gytundeb ag Abertawe yn dilyn ei ddiswyddiad.

Daeth cyfnod Mackay wrth y llyw yng Nghaerdydd i ben ym mis Rhagfyr yn dilyn ffrae gyhoeddus â’r perchennog Vincent Tan, ac fe gyhoeddodd Mackay yr wythnos diwethaf ei fod e wedi rhoi’r gorau i’w gynlluniau i ddwyn achos yn erbyn y clwb yn dilyn ei ddiswyddo.

Rheolwr Derby, Steve McLaren, cyn-reolwr Basel, Murat Yakin, rheolwr Bournemouth, Eddie Howe a chyn-reolwr Man U, David Moyes yw’r enwau eraill sy’n debygol o ymddangos ar y rhestr fer.