Federico Macheda
Mae Caerdydd wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi arwyddo’r ymosodwr ifanc Federico Macheda.
Bydd yr Eidalwr yn ymuno’n rhad ac am ddim wedi i’w gytundeb gyda Man U ddirwyn i ben ar Orffennaf 1.
Mae’r ymosodwr 22 oed wedi arwyddo cytundeb tair blynedd yn dilyn prawf meddygol.
Bydd Macheda yn cael y cyfle unwaith eto i gydweithio ag Ole Gunnar Solskjaer, oedd yn rheolwr ar yr Eidalwr pan oedd yn chwarae i ail dîm Man U.
‘Cyfle anferth’
Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd Macheda ei fod e wedi cael “cyfle anferth” a’i fod yn “edrych ymlaen at ddechrau’r tymor”.
Bydd Caerdydd yn cystadlu yn y Bencampwriaeth y tymor nesaf, wedi iddyn nhw ddisgyn o’r Uwch Gynghrair, ac fe fydd Macheda yn cryfhau’r garfan.
Treuliodd Macheda gyfnod yn Birmingham ar fenthyg y tymor diwethaf ond dywedodd fod ymuno â Chaerdydd yn “bennod newydd” yn ei yrfa.
Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at helpu ei glwb newydd i ddychwelyd i’r Uwch Gynghrair.
Ymunodd Macheda â Man U o Lazio yn 2007, gan sgorio 12 gôl mewn 21 o gemau i’r tîm dan 18 yn Old Trafford.
Sgoriodd yn ystod ei ymddangosiad cyntaf dros dîm cyntaf Man U yn erbyn Aston Villa yn 2009 a chafodd ei enwi’n chwaraewr gorau’r Academi’r tymor hwnnw.
Mae e hefyd wedi treulio cyfnodau ar fenthyg yn Sampdoria, QPR, VfB Stuttgart a Doncaster.
Mae Macheda yn ymuno â charfan fydd hefyd yn cynnwys y chwaraewyr newydd Javi Guerra a Guido Burgstaller, ac mae sôn y gallai Caerdydd hefyd arwyddo Adam Le Fondre o Reading.