Wrecsam 3–0 Nuneaton

Sicrhaodd rheolwr newydd Wrecsam, Kevin Wilkin, ei ail fuddugoliaeth wrth y llyw wrth i’w gyn glwb, Nuneaton, ymweld â’r Cae Ras brynhawn Sadwrn.

Roedd goliau ail hanner Johnny Hunt, Andy Bishop a Neil Ashton yn ddigon i ennill tri phwynt cymharol gyfforddus i’r tîm o ogledd Cymru yn Uwch Gynghrair Skrill.

Di sgôr oedd hi wedi hanner cyntaf agos ond roedd y Dreigiau’n dipyn gwell tîm wedi’r egwyl.

Aethant ar y blaen yn gynnar yn yr ail gyfnod pan rwydodd Hunt ar yr ail gyfle wedi i gynnig gwreiddiol Mark Carrington gael ei arbed gan James Belshaw.

Dyblodd Bishop fantais Wrecsam ugain munud o’r diwedd yn dilyn gwaith creu taclus Ashton.

Yna, cwblhaodd Ashton ei hun y sgorio yn yr eiliadau olaf wedi i Bradley Reid gael ei lorio yn y cwrt cosbi gan Gareth Dean. Cafodd cic o’r smotyn Ashton ei harbed ond ymatebodd yn gynt na neb i rwydo ar yr ail gynnig.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi Wrecsam i’r unfed safle ar bymtheg yn nhabl y Gyngres ac maent bellach yn fathemategol ddiogel am dymor arall.

.

Wrecsam

Tîm: Mayebi, Artell, Ashton, Livesey, Keates (Evans 87′), Hunt, Carrington, Bailey-Jones, Clarke, Bishop (Williams 91′), Ogleby (Reid 71′)

Goliau: Hunt 54’, Bishop 70’,  Ashton 90’

.

Nuneaton

Tîm: Belshaw, Cranston (Magri 46′), Dean, Cowan, Armson, Streete, Sleath, Trainer (Adams 64′), Hibbert, York (Moult 64′), Brown

Cardiau Melyn: Trainer 39’, Sleath 49’

.

Torf: 2,706