Os chafodd ambell i ael ei godi ymysg cefnogwyr Lerpwl fod Joe Allen wedi’i ddewis o flaen Coutinho yng nghanol cae Lerpwl ar gyfer yr ornest fawr brynhawn dydd Sul, doedd fawr neb yn cwyno erbyn y chwib olaf.

Llwyddodd Lerpwl i chwalu Manchester United o 3-0 yn stadiwm eu hen elyn, gyda Allen yn chwarae rhan allweddol yng nghanol cae wrth sicrhau fod ei dîm yn rheoli’r gêm, ac yn ennill y gic o’r smotyn ar gyfer ail gôl y prynhawn hefyd.

Fodd bynnag, doedd hi ddim yn benwythnos cystal i amddiffynwyr Cymraeg yr Uwch Gynghrair.

Collodd Ashley Williams a Ben Davies o 2-1 yn erbyn West Brom gydag Abertawe, ildiodd Declan John a Chaerdydd gôl hwyr i weld Everton yn eu curo o’r un sgôr, ac roedd un gôl i Fulham yn ddigon i drechu Paul Dummett a Newcastle.

Doedd hi ddim yn ganlyniad llawer gwell i Joe Ledley a Crystal Palace chwaith, wrth iddyn nhw frwydro i gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Sunderland, canlyniad sy’n gadael y ddau dîm mewn trwbl.

Crafu buddugoliaeth wnaeth Real Madrid dros Malaga nos Sadwrn i aros ar frig La Liga, gyda Ronaldo’n rhwydo unig gôl y gêm o bas Gareth Bale.

Yn y Bencampwriaeth roedd hi’n benwythnos gymharol ddistaw i’r Cymry, er i Sam Vokes ddisgleirio eto wrth i Burnley ennill 2-1 yn erbyn  Leeds. Pwysau gan Vokes arweiniodd at y gôl agoriadol, wrth i’r amddiffynnwr roi’r bêl yn ei rwyd ei hun.

Roedd Vokes eisoes wedi sgorio nos Fercher diwethaf wrth i Burnley gael gêm gyfartal o 3-3 yn erbyn Birmingham, gornest ble gwelwyd gôl wych o 25 llathen gan Emyr Huws i’r gwrthwynebwyr – colli 4-1 oedd hanes Huws ddydd Sadwrn.

Gôl Emyr Huws yn erbyn Burnley:

Un arall gafodd canol wythnos well na’i benwythnos oedd Hal Robson-Kanu, a rwydodd nos Fawrth wrth i Reading drechu Leeds 4-2 cyn gorfod dod oddi ar y cae ag anaf ar ôl hanner awr yn erbyn Derby ddydd Sadwrn.

Ymddangosodd Chris Gunter, Rhoys Wiggins, Steve Morison, David Cotterill, Lewin Nyatanga a Simon Church dros y penwythnos hefyd, gyda Nyatanga’n dechrau dim ond ei bedwaredd gêm o’r tymor.

Yng nghynghrair yr Alban chwaraeodd Adam Matthews ran yn ail gôl Celtic wrth iddyn nhw drechu Kilmarnock yn gyfforddus o 3-0.

Ac yng Nghynghrair Un fe arbedodd Owain Fôn Williams gic o’r smotyn wrth i Tranmere drechu Notts County 3-2 i godi o’r pedwar gwaelod. Sgoriodd Jason Koumas y gyntaf i Tranmere, gydag Ash Taylor a Jake Cassidy yn chwarae gemau llawn.

Seren yr wythnos: Joe Allen – profi pwynt i’r rheiny fu’n ei amau gyda pherfformiad cryf mewn gêm hollbwysig.

Siom yr wythnos: Declan John – nid ei fai ef yn bersonol, ond ergyd drom iawn i Gaerdydd yn ildio gôl mor hwyr.