Luton 5–0 Wrecsam

Cafodd Wrecsam y dechrau gwaethaf posib i fywyd heb Andy Morrell wrth gael cweir gan Luton ar Ffordd Kenilworth nos Fawrth.

Taith i wynebu’r tîm ar frig Uwch Gynghrair Skrill oedd y peth olaf yr oedd y Dreigiau ei angen heb reolwr parhaol, a ni ddangosodd Luton unrhyw gydymdeimlad gan rwydo pedair cyn yr egwyl a phump i gyd.

Rhwydodd Luke Guttridge ac Andre Gray gôl yr un mewn deg munud cyntaf trychinebus i gêm gyntaf Billy Barr wrth y llyw dros dro.

Yna, roedd y gêm fwy neu lai drosodd wedi i Guttridge sgorio ei ail ef a thrydedd ei dîm wedi 17 munud.

Ychwanegodd Paul Benson y bedwaredd cyn yr egwyl cyn Jake Howells gwblhau’r grasfa o’r smotyn yn yr ail gyfnod ar ôl cael ei lorio yn y cwrt cosbi gan Mark Carrington.

Mae Wrecsam yn llithro un lle i’r pedwerydd safle ar ddeg yn nhabl y Gyngres, ddeg pwynt o’r safleoedd ail gyfle ac o safleoedd y gwymp.

.

Luton

Tîm: Tyler, McNulty, Franks, Henry, Ruddock Mpanzu, Griffiths, Howells, Guttridge (Robinson 76′), McGeehan, Gray (Lawless 72′), Benson (Shaw 64′)

Goliau: Guttridge 3’, 17’, Gray 9’, Benson 38’, Howells [c.o.s.] 70’

.

Wrecsam

Tîm: Coughlin, Tomassen, Livesey, Ashton, Carrington, Evans, Clarke, Hunt, Keates (Anyinsah 66′), Ogleby (Bishop 72′), Ormerod

Cardiau Melyn: Hunt, Ashton

.

Torf: 7,526