Casnewydd 1–2 Wimbledon
Mae ail hanner siomedig Casnewydd i’r tymor yn parhau wedi iddynt golli yn erbyn Wimbledon ar Rodney Parade nos Fawrth.
Roedd y Cymry ar y blaen yn y gêm Ail Adran tan bum munud o’r diwedd ond sgoriodd yr ymwelwyr ddwy waith yn y pum munud olaf i gipio’r pwyntiau.
Yn dilyn hanner cyntaf di sgôr, fe aeth tîm Justin Edinburgh ar y blaen diolch i gôl i’w rwyd ei hun gan gôl-geidwad Wimbledon hanner ffordd trwy’r ail gyfnod.
Ac roedd hi’n ymddangos mai felly y byddai hi’n gorffen hefyd tan i Charlie Sheringham unioni bum munud o ddiwedd y naw deg yn dilyn gwaith creu Luke Moore.
Yna, aeth pethau o ddrwg i waeth dri munud yn ddiweddarach pan gipiodd Kevin Sainte-Luce y fuddugoliaeth gydag ergyd gadarn i do’r rhwyd
Mae Casnewydd yn llithro i’r nawfed safle yn nhabl yr Ail Adran ac yn colli mwy o dir ar y safleoedd ail gyfle.
.
Casnewydd
Tîm: Parish, Willmott, Burge, Anthony, Worley, Yakubu, Sandell, Chapman, Jolley (Howe 63′), Zebroski (Jeffers 63′), Porter (Minshull 87′)
Gôl: Worner [g.e.h.] 65’
.
Wimbledon
Tîm: Worner, Fuller, Fenlon (Sainte-Luce 75′), Jones, Antwi, Bennett, Moore, Collins, Midson (Sheringham 68′), Hylton (Wyke 68′), Moore
Goliau: Sheringham 85’, Sainte-Luce 88’
Cerdyn Melyn: Antwi
.
Torf: 2,666