Andy Morrell
Mae prif weithredwr Wrecsam Don Bircham wedi dweud ei fod eisoes wedi derbyn nifer o ymholiadau ynglŷn â swydd wag rheolwr y clwb.

Fe adawodd Andy Morrell ei swydd ddoe ar ôl dod i gytundeb â’r clwb, ac mae Wrecsam yn paratoi i hysbysebu’r swydd nawr.

Billy Barr sydd wedi cymryd yr awenau dros dro, ac fe ddywedodd Bircham fod Barr hefyd ymysg yr enwau fydd yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd barhaol.

“Fe fyddwn ni’n hysbysebu’r swydd ar ddydd Mawrth neu ddydd Mercher,” meddai Don Bircham wrth BBC Sport.

“Mae gennym ni broses recriwtio; fe fydd hi’n cymryd tua 10 diwrnod ar gyfer ceisiadau, er mod i wedi cael pum galwad yn barod, credwch neu beidio.”

Un enw sydd wedi’i gysylltu â’r swydd yw cyfarwyddwr pêl-droed Y Seintiau Newydd, Craig Harrison, er ei fod ef wedi dweud nad yw wedi cael unrhyw gysylltiad â Wrecsam.

Dyw hi ddim yn glir eto a fydd Andy Morrell yn cymryd saib o bêl-droed ar ôl gadael y clwb, neu’n chwilio am rôl newydd o fewn y gêm.

Ar ôl cyrraedd y gemau ail gyfle ddwywaith yn olynol o dan Morrell, gan gynnwys colli yn y ffeinal i Gasnewydd y llynedd, dyw Wrecsam ddim wedi bod yn cael tymor da eleni.

Maen nhw’n 13eg yn y Gyngres ar hyn o bryd, deg pwynt i ffwrdd o safleoedd y gemau ail gyfle.