Syr Dave Brailsford
Mae rheolwr Lloegr Roy Hodgson wedi gwahodd Syr Dave Brailsford i siarad â’i dîm cyn iddyn nhw hedfan allan i Gwpan y Byd ym Mrasil yr haf yma.

Bydd y Saeson yn gobeithio y gall Brailsford, sydd wedi arwain beicwyr Prydain i lu o lwyddiannau dros y ddwy ddegawd ddiwethaf, roi hwb i’w pêl-droedwyr hefyd.

Ers dechrau gweithio fel cyfarwyddwr perfformiad i feicwyr Prydain yn 2002 mae Brailsford, sydd o Ddeiniolen yng Ngwynedd, wedi gweld llwyddiant ysgubol yn y gamp.

Ers 2004 mae Prydain wedi ennill 30 medal Olympaidd, 49 medal Baralympaidd a dros 100 o fedalau ym Mhencampwriaethau’r Byd, bron hanner ohonynt yn rai aur.

Mae Brailsford hefyd yn gweithio gyda thîm seiclo Sky, a welodd eu beicwyr Bradley Wiggins a Chris Froome yn ennill y ddwy Tour de France diwethaf.

Dywedodd Hodgson ei fod yn gobeithio y bydd Brailsford yn medru  cynnig cyngor i’w chwaraewyr ar sut i baratoi’n feddyliol a rhoi eu gorau ar gyfer y bencampwriaeth.

Fe ddywedodd Hodgson hefyd ei fod yn ystyried cyflwyno seicolegydd i’w dîm ar gyfer Cwpan y Byd er mwyn helpu’r chwaraewyr baratoi ar gyfer ciciau o’r smotyn, gan gyfaddef nad yw rhai o’i chwaraewyr mor hyderus â’i gilydd.

Mae gan Loegr record drychinebus mewn ciciau o’r smotyn, gan golli eu chwe gornest diwethaf o’r fath yn ymestyn yn ôl i 1996.