Craig Bellamy, capten Caerdydd
Mae rheolwr cynorthwyol Caerdydd, Terry Burton, wedi dweud bod yr Adar Glas yn haeddu gwell na cholli 0-2 yn erbyn Ipswich ddydd Sadwrn.
Fe gafodd Caerdydd sawl cyfle da yn ystod yr hanner cyntaf ond arbedodd gôl-geidwad y Marton Fulop sawl pêl.
Sgoriodd Jimmy Bullard dwy gôl yn yr ail hanner er mwyn sicrhau’r pwyntiau llawn i Ipswich.
“D’y ni ddim yn hoffi colli,” meddai Terry Burton. “Dydyn ni ddim wedi colli’n aml y tymor yma ond mae bob tro yn siomedig pan mae’n digwydd.
“Ond roedd y perfformiad yn erbyn Ipswich yn haeddu gwell na cholli 2 – 0.
“Doedd yna na ddim nerfau yn y tîm ond fe fethon ni gymryd ein cyfleoedd ac mae hynny’n siomedig.
“Os nad ydych chi’n cymryd pob cyfle, mae yna siawns dda y byddwch chi’n cael eich cosbi yn hwyrach ymlaen.
“Roedden ni wedi rheoli’r gêm ond wedi colli 2 – 0. Mae hynny’n gallu digwydd ym mhêl droed.”
Mae Terry Burton hefyd yn ansicr sut y bydd tymor y Bencampwriaeth yn gorffen eleni, ar ôl sawl canlyniad annisgwyl dros y penwythnos.
“Mae yna 11 gêm yn weddill, a 33 pwynt i’w hennill. Ond mae’n anodd gwybod gyda’r gynghrair yma. Fyddwn I ddim yn rhoi arian ar bwy fydd ar y brig.”