Alan Tate
Mae amddiffynnwr Abertawe, Alan Tate, wedi dweud bod yr Elyrch yn gobeithio taro yn ôl erbyn Watford nos yfory ar ôl colli yn erbyn Scunthorpe dros y penwythnos.
Mae Tate yn credu bod Abertawe eisoes wedi profi eu bod nhw’n gallu taro ‘nôl yn syth ar ôl colli gêm.
“Mae yna 11 gêm i chwarae ac mae’n rhaid i ni geisio ennill pob un ohonynt,” meddai Alan Tate.
“Mae hynny’n annhebygol ac fe fydd pob un clwb yn colli gemau cyn diwedd y tymor.”
Roedd Alan Tate yn siomedig gyda’r canlyniad yn erbyn Scunthorpe ac yn feirniadol o benderfyniad y dyfarnwr i wobrwyo cic gosb yn ei erbyn.
“Mae’n rhaid i ddyfarnwyr wneud y penderfyniadau. Rydw i wedi gwylio’r tacl ac mae’n amlwg fy mod i wedi ennill y bêl,” meddai.
“Dw i ddim yn deall sut wnaeth y dyfarnwr ddim gweld hynny. Mae’n siomedig, ond fe fydd rhaid i ni symud ymlaen.”
Er iddyn nhw golli mae Abertawe yn yr ail safle yn y tabl o hyd, ar ôl i Gaerdydd a Nottingham Forest golli hefyd.