Aaron Ramsey
Mae rheolwr Arsenal, Arsene Wenger wedi awgrymu y gallai’r Cymro Aaron Ramsey chwarae rhan yn eu gêm Uwch Gynghrair Lloegr ddydd Sadwrn.

Dyw’r chwaraewr canol cae heb chwarae i’w dîm ers iddo dorri ei goes yn erbyn Stoke ychydig dros flwyddyn yn ôl, er iddo gael ei ddewis ar y fainc mewn dwy gêm i Arsenal ym mis Ionawr ni ddaeth i’r maes yn yr un ohonyn nhw.

Er hynny, mae Ramsey wedi cael cyfle i adennill ei ffitrwydd gyda chyfnodau ar fenthyg yn Nottingham Forest cyn y Nadolig ac yna gyda Chaerdydd yn fwy diweddar.

Roedd ei gyfnod gyda’i gyn glwb, Caerdydd, yn un arbennig o lwyddiannus ac fe ddechreuodd chwe gêm i’r tîm cyn i’r cyfnod ddod i ben ddydd Sul diwethaf, gan gynnwys herio Hull ddydd Sadwrn.

“Mae siawns y bydd Aaron ar gael i’r garfan ar gyfer dydd Sadwrn, bydd yn dda i’w gael yn ôl” meddai Wenger wrth Arsenal TV Online ddoe.

“Mae’n mynd i wella a gwella rŵan. Rydan ni’n gwybod fod ganddo injan dda, gallu pasio gwych a’r gallu i sgorio goliau.”

Bydd gweld Ramsey nôl yn chwarae ar y lefel uchaf yn plesio rheolwr newydd Cymru, Gary Speed hefyd wrth iddo baratoi ei dîm i herio Lloegr yn Stadiwm y Mileniwm ddiwedd y mis.