Wrecsam 2–1 Aldershot
Sicrhaodd gôl Jay Harris dri munud o’r diwedd fuddugoliaeth i Wrecsam yn erbyn Aldershot yn Uwch Gynghrair Skrill brynhawn Sadwrn.
Aeth y tîm cartref ar y blaen ar y Cae Ras wedi dim ond chwarter awr diolch i gôl Joe Clarke ond roedd angen cynnig hwyr Harris ar y Dreigiau yn y diwedd wedi i Brett Williams unioni i’r ymwelwyr.
Roedd Wrecsam ar y blaen yn gynnar pan beniodd Clarke groesiad Mark Carrington i gefn y rhwyd.
Ond ni pharodd y fantais yn hir wrth i Williams gasglu pas dreiddgar Martin Rowlands cyn curo Andy Coughlin i unioni’r sgôr bum munud yn ddiweddarach.
Felly yr arhosodd hi tan yr egwyl ac roedd hi’n ymddangos mai felly y byddai hi’n gorffen hefyd wrth i’r chwiban olaf agosáu. Yna, gyda thri munud i fynd sgoriodd Harris gôl wych a oedd yn haeddu ennill unrhyw gêm – ergyd o bum llath ar hugain a mwy.
Gohiriwyd sawl gêm yn y Gyngres ddydd Sadwrn a manteisiodd Wrecsam ar hynny i godi i’r trydydd safle ar ddeg gyda’r fuddugoliaeth hon.
.
Wrecsam
Tîm: Coughlin, Artell, Tomassen, Clowes (Parle 46′), Bailey-Jones (Bishop 74′), Harris, Hunt, Carrington, Clarke, Anyinsah, Ogleby (Cieslewicz 71′)
Goliau: Clarke 15’, Harris 87’
Cardiau Melyn: Bailey-Jones 30’ Ogleby 55’
.
Aldershot
Tîm: Morris, Oastler (Mekki 79′), Barker, Goodman, Gibbs, Stanley, Partington, Roberts (Paterson 90′), Rowlands, Williams, O’Brien
Gôl: Williams 20’
.
Torf: 2,819