Casnewydd 1–2 Northampton
Collodd Casnewydd gyfle gwych i ddychwelyd i safleoedd ail gyfle’r Ail Adran wrth golli gartref yn erbyn Northampton ar Rodney Parade brynhawn Sadwrn.
Ar ddiwrnod pan gafodd sawl gêm eu gohirio roedd gan dîm Justin Edinburgh gyfle i godi i’r pumed safle, ond maent yn aros yn wythfed yn dilyn y canlyniad siomedig hwn.
Rhwydodd Hallam Hope y gôl agoriadol i’r ymwelwyr wedi ychydig llai na hanner awr er i Lenny Pidgeley wneud yn dda i arbed ei gynnig cyntaf.
Roedd Casnewydd yn gyfartal erbyn hanner amser diolch i beniad Harry Worley ond adferodd Darren Carter fantais Northampton gyda gôl gynnar yn yr ail hanner.
Cafodd y Cymry ddigon o gyfleoedd i unioni wedi hynny ond daliodd y tîm o waelod y gynghrair eu gafael ar y tri phwynt. Mae Casnewydd yn aros yn wythfed, bwynt i ffwrdd o’r safleoedd ail gyfle.
.
Casnewydd
Tîm: Pidgeley, Pipe, Willmott, Naylor, Worley, Yakubu (Burge 72′), Flynn (Minshull 64′), Sandell, Crow, Jolley (Washington 64′), Chapman
Gôl: Worley 45’
Cardiau Melyn: Jolley 41’, Sandell 80’
.
Northampton
Tîm: Duke, Amankwaah, Emerton (Moyo 26′), Reid, Collins, Tozer, Hackett, Carter, Hope (Harriott 77′), German (Toney 89′), Deegan
Goliau: Hope 29’, Carter 47’
Cardiau Melyn: Carter 48’, Reid 72’, Hackett 86’
.
Torf: 3,864