Newcastle 1–2 Caerdydd


Mae Caerdydd ym mhedwaredd rownd y Cwpan FA ar ôl curo Newcastle ar Barc St James’ brynhawn Sadwrn yng ngêm gyntaf Ole Gunnar Solskjær wrth y llyw.

Er i Papiss Cissé roi’r tîm cartref ar y blaen toc wedi’r awr fe darodd yr ymwelwyr o Gymru yn ôl gyda dwy gôl mewn saith munud gan Craig Noone a Fraizer Campbell.

Hatem Ben Arfa a ddaeth agosaf at agos y sgorio mewn hanner cyntaf di sgôr ond tarodd cynnig ymosodwr Newcastle yn erbyn y postyn.

Tarodd y Ffrancwr y gwaith coed ar ddechrau’r ail gyfnod hefyd cyn i Cissé agor y sgorio – y blaenwr yn rhwydo wedi i ymdrech wreiddiol Moussa Sissoko gael ei hatal.

Roedd Solskjær yn eilydd enwog iawn fel chwaraewr a dau o’i eilyddion enillodd y gêm hon i Gaerdydd hefyd.

Sgoriodd Noone gôl wych o bellter funud yn unig wedi dod i’r cae ac ychwanegodd Campbell yr ail gyda pheniad o groesiad Peter Wittingham ddeg munud o’r diwedd.

Gêm gyntaf i’w chofio i’r rheolwr newydd felly ond bydd ei olygon yn troi yn awr at y gêm gynghrair yn erbyn West Ham yr wythnos nesaf.

.

Newcastle

Tîm: Elliot, Santon, Haidara, Tioté, Taylor, Yanga-Mbiwa, Sissoko (Remy 85′), Anita, Cissé (Sh. Ameobi 85′), Ben Arfa, Gouffran (Obertan 63′)

Gôl: Cissé 62’

Cardiau Melyn: Taylor 69’, Ben Arfa 90’

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, McNaughton, John, Gunnarsson, Hudson, Turner, Cowie, Kim (Smith 79′), Cornelius (Campbell 60′), Odemwingie (Noone 72′), Whittingham

Goliau: Noone 73’, Campbell 80’

Cerdyn Melyn: Gunnarsson 42’

.

Torf: 31,166