Y Rhyl 2–1 Prestatyn
Y Rhyl oedd yn fuddugol yn y gêm ddarbi o flaen camerâu Sgorio ar y Belle Vue brynhawn Mercher.
Roedd yr ymwelwyr o Brestatyn ar y blaen ar hanner amser diolch i gôl Sean Hessey ond tarodd y Lilis Gwynion yn ôl wedi’r egwyl i ennill y gêm gyda goliau Paul McManus a Steve Lewis.
Ychydig o gyfleoedd a gafwyd mewn hanner cyntaf digon diflas. Daeth Steve Lewis a Danny Hughes yn agos i’r Rhyl ac roedd angen arbediad gan Dave Roberts i atal cynnig Chrs Davies o bellter.
Fe ddaeth y gôl agoriadol bum munud cyn yr egwyl a Phrestatyn gafodd hi. Gwnaeth y dyfarnwr yn dda i chwarae’r rheol fantais cyn i Hessey ergydio o bellter ond dylai Alex Ramsay yn y gôl i’r Rhyl fod wedi atal y cynnig mewn gwirionedd.
Dechreuodd y tîm cartref yn well wedi’r egwyl ac roeddynt yn gyfartal wedi deg munud o’r ail gyfnod ar ôl i McManus rwydo o’r smotyn yn dilyn trosedd ar Lewis yn y cwrt cosbi.
Lewis ei hun rwydodd yr ail i roi’r Rhyl ar y blaen bum munud yn ddiweddarach. Dechreuodd yr ymosodwr y symudiad ei hun cyn penio croesiad perffaith Matty Woodward i gefn y rhwyd.
Cafodd Prestatyn gyfleoedd i unioni wedi hynny gyda Gareth Wilson yn dod yn agos gydag ergyd o ochr y cwrt cosbi a Dave Hayes yn penio dros y trawst. Daeth cyfle gorau’r ymwelwyr o bosib i Lee Hunt bum munud o ddiwedd y naw deg ond tarodd ei foli yn erbyn y trawst a daliodd y Rhyl eu gafael ar y fuddugoliaeth.
Mae’r canlyniad yn codi’r Rhyl i’r pumed safle yn nhabl yr Uwch Gynghrair ond mae gobeithion Prestatyn o gyrraedd y chwech uchaf ar y toriad yn pylu wrth iddynt aros yn wythfed.
.
Y Rhyl
Tîm: Ramsay, Woodward, Astles, Rimmer, Halewood, McManus, Hughes (Cadwallader 46’), Walch, Lewis (Powell 90’), Forbes (Bathurst 75’), Laverty
Goliau: McManus [c.o.s.] 55’, Lewis 61’
Cardiau Melyn: Hughes 40’, Woodward 80’
.
Prestatyn
Tîm: Roberts, Davies, Lewis, Hayes, Hessey, Wilson (Ellis 84’), Parker, Gibson, Parkinson, Hunt, Holmes (Murray 90’)
Gôl: Hessey 43’
Cerdyn Melyn: Hayes 59’
.
Torf: 823