Alfreton 1–0 Wrecsam
Roedd un gôl yn ddigon i Alfreton wrth iddynt guro Wrecsam ar North Street brynhawn Mercher.
Sgoriodd Job Ayo Akinde unig gôl y gêm toc cyn yr egwyl wrth i 2014 ddechrau yr un mor siomedig ag y gorffennodd 2013 i’r Dreigiau.
Bu rhaid aros tan eiliadau olaf yr hanner cyntaf am y gôl agoriadol. Daeth pas hir Daniel Meadows o hyd i Akinde a gwnaeth yntau’r gweddill.
Bu bron i Robbie Evans unioni’r sgôr i’r Dreigiau yn yr ail hanner ond profodd un gôl yn ddigon i Alfreton yn y diwedd.
Mae Wrecsam yn aros yn bymthegfed er gwaethaf y canlyniad gan i sawl gêm yn y Gyngres gael eu gohirio oherwydd glaw ddydd Mercher.
.
Alfreton
Tîm: Worsnop, Franklin, Kempson, Rowe-Turner, Wylde, Wood, Bradley (Shaw 78′), Westwood, Meadows, Clayton (Wishart 65′), Akinde
Gôl: Akinde 45’
Cardiau Melyn: Rowe-Turner 14’, Wood 90’, Meadows 90’
.
Wrecsam
Tîm: Coughlin, Artell, Clowes, Evans, Cieslewicz, Clarke, Hunt, Harris, Carrington (Tomassen 83′), Ormerod, Bishop (Anyinsah 71′)
Cerdyn Melyn: Evans 38’
.
Torf: 765