Arsenal 2–0 Caerdydd
Sgoriodd Arsenal ddwy gôl hwyr wrth guro Caerdydd yn Stadiwm Emirates brynhawn Mercher.
Collodd yr Adar Gleision ddau bwynt wrth ildio dwy gôl hwyr yn erbyn Sunderland nos Sadwrn ac ildio’n hwyr oedd eu hanes eto yn erbyn Arsenal wrth i Nicklas Bendtner a Theo Walcott sgorio i ennill y gêm i’r tîm cartref.
Er i Arsenal lwyr reoli’r meddiant trwy gydol y gêm fe wnaeth Caerdydd yn dda i aros yn y gêm am ran helaeth o’r naw deg munud.
Fe ddaeth Jack Wilshere yn agos i’r tîm cartref yn gynharach yn y gêm ond tarodd ei gynnig yn erbyn y postyn a bu rhaid aros tan ddau funud o’r diwedd am y gôl gyntaf.
Gwnaeth David Marshall yn y gôl i Gaerdydd yn dda i arbed peniad Bacary Sagna ond roedd Bendtner wrth law i rwydo ar yr ail gynnig.
Roedd yn rhaid i’r Adar Gleision chwilio am gôl yn yr amser a ganiateir am anafiadau felly ond Arsenal yn hytrach a gafodd y gôl nesaf wrth i Walcott gasglu pas dda Wilshere cyn curo Marshall i sicrhau’r tri phwynt.
Mae Caerdydd o ganlyniad yn disgyn i’r ail safle ar bymtheg yn nhabl yr Uwch Gynghrair, un lle ac un pwynt yn unig uwch law safleoedd y gwymp hanner ffordd union trwy’r tymor.
.
Arsenal
Tîm: Szczesny, Sagna, Monreal, Flamini (Rosicky 65′), Mertesacker, Koscielny, Walcott, Arteta, Podolski (Bendtner 64′), Wilshere, Cazorla
Goliau: Bendtner 88’, Walcott 90’
Cerdyn Melyn: Mertesacker 28’
.
Caerdydd
Tîm: Marshall, McNaughton, John, Medel (Gunnarsson 61′), Caulker, Turner, Noone, Kim, Campbell (Maynard 80′), Mutch (Cowie 68′), Whittingham
Cardiau Melyn: Turner 55’, Marshall 60’
.
Torf: 60,004