Malky Mackay
Mae rheolwr Caerdydd Malky Mackay wedi dweud iddo ddisgwyl cael y sac dros y penwythnos, yn dilyn yr ansicrwydd sydd yn parhau ynghylch y clwb.

Mae perthynas Mackay a’r perchennog Vincent Tan wedi dirywio’n sylweddol yn y misoedd diwethaf, gyda’r ffrae yn ymddangos fel petai wedi cyrraedd penllanw dydd Gwener pan nad oedd Mackay yn y gynhadledd i’r wasg.

Roedd wedi derbyn e-bost yr wythnos diwethaf gan Tan yn bygwth ei ddiswyddo os nad oedd e’n ymddiswyddo – rhywbeth y dywedodd Mackay yn bendant na fyddai’n gwneud.

Fe deithiodd Tan draw o Falaysia ddydd Gwener i wylio’r tîm yn herio Lerpwl drannoeth, gydag adroddiadau’n tybio mai’r unig benderfyniad ar ôl i’w wneud ganddo oedd a fyddai’n diswyddo Mackay cyn neu ar ôl y gêm.

Colli oedd hanes Caerdydd o 3-1 – ond mae Mackay yn dal yn ei swydd ar ôl i gadeirydd y clwb Mehmet Dalman ryddhau datganiad ddydd Sul yn dweud ei fod yn parhau wrth y llyw am y “dyfodol agos”.

Cafodd Dalman gyfarfod gyda Tan nos Wener, oedd yn ymddangos fel petai wedi llwyddo i berswadio’r perchennog i oedi am nawr cyn gwneud penderfyniad am ddyfodol y rheolwr.

Malky’n disgwyl mynd

“Roeddwn i’n teimlo mod i am golli fy swydd ar y penwythnos,” meddai Mackay heddiw. “Fe wnaeth yr e-bost fy ngofidio i’n fawr. Fe wnes i wrthod ymddiswyddo ac roeddwn i’n disgwyl cael y sac.”

Rhoddodd Mackay glod i Dalman, “dyn da a chall” yn ôl ef, am geisio datrys y sefyllfa, gan ddweud ei fod yn gobeithio cwrdd gydag ef a Tan am drafodaeth yn y dyfodol agos.

“Roeddwn i wedi gobeithio am gyfarfod heddiw, ond cafodd hynny ei wrthod,” meddai. “Dydw i ddim yn gwybod os allwn ni.

“Mae Mehmet wedi ceisio gwneud hyn ers tri mis, a finnau hefyd. Fe wnâi ffeindio allan pan rwy’n mynd i’r cyfarfod, a bryd hynny allai gymryd stoc o’r sefyllfa.”

Yn ôl datganiad yr wythnos diwethaf gan brif weithredwr y clwb Simon Lim, roedd Tan wedi bod yn anhapus gyda Mackay am orwario dros yr haf, rhywbeth a arweiniodd at ddiswyddo ei bennaeth recriwtio Iain Moody.

Mae Tan hefyd wedi bod yn anhapus gyda’r steil o chwarae a rhai o’r canlyniadau – er bod Caerdydd ar hyn o bryd yn 15fed yn y tabl, pedwar pwynt uwchlaw’r safleoedd disgyn.

Cyfle am bwyntiau

Mae Caerdydd yn wynebu Southampton i ffwrdd ar ddydd San Steffan, cyn herio Sunderland sydd ar waelod y tabl gartref ddydd Sadwrn.

Ac fe gyfaddefodd Mackay fod y pwysau’n dal yno i gael canlyniadau.

“Mae mwy o bwysau arna i nawr,” meddai. “Mae’r tîm yn gweithio mor galed ac wedi perfformio’n rhesymol a chael canlyniadau da.

“Dwi’n falch o fod yn rheolwr yma ac yn credu mai fi ddylai fod y rheolwr.”