Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n edrych ar drefnu gemau cyfeillgar posib yn erbyn yr Eidal a Wrwgwai yn yr haf – dau o wrthwynebwyr Lloegr yn eu grŵp Cwpan y Byd.
Mae’r gwledydd hynny’n edrych am gemau posib tuag at ddiwedd mis Mai cyn iddyn nhw gychwyn ar eu hymgyrch ym Mrasil, gyda Chymru’n awyddus i herio un ohonynt.
Mae’n bosib y byddai’r gemau’n cael eu cynnal yn yr UDA, gyda nifer o dimau fydd yn mynd i Gwpan y Byd yn bwriadu ymarfer mewn llefydd fel Miami wrth iddyn nhw baratoi am y tywydd yn Ne America.
Mae’r gwledydd yng ngrŵp Lloegr hefyd yn awyddus i brofi eu hunain yn erbyn tîm sydd yn gyfagos i’w gwrthwynebwyr – arfer cyffredin gyda thimau sydd yn paratoi am Gwpan y Byd.
Mae Wrwgwai yn 6ed yn y byd yn nhabl detholiadau diweddaraf FIFA, gyda’r Eidal un safle yn is yn 7fed – gan olygu y byddai Cymru’n wynebu her fawr pwy bynnag fydd y gwrthwynebwyr.
Dyw Cymru heb wynebu’r Eidal ers ymgyrch ragbrofol Ewro 2004, pan gawson nhw fuddugoliaeth enwog yn Stadiwm y Mileniwm diolch i gôl gan Craig Bellamy, cyn colli’r gêm oddi cartref 4-0.
Fe chwaraeodd Cymru yn erbyn Costa Rica, y pedwerydd tîm yng ngrŵp Lloegr, ym mis Chwefror 2012 yn gêm deyrnged i Gary Speed – gyda’r gwrthwynebwyr o Dde America yn ennill 1-0 y tro hwnnw.
Paratoi i fis Medi
Dywedodd is-hyfforddwr Cymru Osian Roberts y byddai Cymru’n gweld gemau o’r fath fel ffordd wych o baratoi at eu hymgyrch nesaf fydd yn dechrau ym mis Medi, pan fyddwn nhw’n anelu i gyrraedd Ewro 2016 yn Ffrainc.
“Mae’n rhywbeth rydyn ni’n ceisio’i dargedu,” meddai Osian Roberts wrth y BBC. “Timau fel yr Eidal, Wrwgwai, os allwn ni chwarae yn erbyn y math yna o dimau yna mae’n baratoad gwych i’r gemau rydyn ni’n wynebu ym mis Medi.”
“Byddai’n edrych fel petai ni’n chwarae’r gemau yn yr UDA ac fe fyddai’n gyfle da i fynd a’r bechgyn i ffwrdd, gan wneud yn siŵr ein bod ni’n mynd mewn i gemau mis Medi yn tanio.”
Chwaraeodd Cymru gêm felly ym mis Mai 2012, pan gollon nhw o 2-0 mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Mecsico yn Efrog Newydd.
Grwpiau Ewro 2016 i ddod
Bydd y grwpiau ar gyfer rowndiau rhagbrofol Ewro 2016 yn cael eu dewis ar 23 Chwefror 2014, gyda’r gemau yn cychwyn ym mis Medi.
Mae’n bosib felly na fyddai Cymru’n medru cadarnhau gêm gyfeillgar yr erbyn yr Eidal nes i’r rheiny gael eu dewis – rhag ofn fod yn rhaid iddynt chwarae ei gilydd yn y grwpiau hynny.
Mae UEFA wedi cadarnhau fformat y rowndiau rhagbrofol, gyda naw grŵp o bump neu chwe thîm. Bydd y ddau uchaf o bob grŵp yn mynd i’r rowndiau terfynol yn Ffrainc, yn ogystal ag un tîm sy’n drydydd, gyda gweddill y timau sy’n drydydd yn chwarae gemau ail gyfle.
Bydd cadarnhad ym mis Ionawr o ba wledydd fydd ym mha bot wrth gael eu dewis, gyda disgwyl i Gymru fod ymysg enwau Pot 4.
Cyhoeddodd UEFA hefyd y bydd gemau’n cael eu chwarae dros ‘Wythnos o Bêl-droed’ rhwng dydd Iau a dydd Mawrth – all olygu gemau rhyngwladol cystadleuol yn dychwelyd i gael eu chwarae ar brynhawn Sadwrn.