Y Drenewydd 2–2 Airbus
Cafwyd gêm ddigon gyffrous o flaen camerâu Sgorio brynhawn Sadwrn er gwaethaf amgylchiadau anodd ar Barc Latham.
Aeth yr ymwelwyr, Airbus, ddwy gôl ar y blaen yn yr hanner cyntaf cyn i’r Drenewydd dynnu un yn ôl reit cyn yr egwyl. A llwyddodd y tîm cartref i gipio pwynt gydag ail gôl wrth i’r gwynt a’r glaw waethygu yn yr ail gyfnod.
Hanner Cyntaf
Roedd Tom Field yng nghanol popeth da i Airbus a bu bron iddo agor y sgorio gyda chic rydd gynnar, ond llwyddodd Chris Mullock yn y gôl i arbed gyda help y trawst.
Doedd dim y gallai gôl-geidwad y Drenewydd ei wneud serch hynny i atal Field wedi deunaw munud pan ddaeth y chwaraewr canol cae o hyd i’r gornel isaf gydag ergyd dda o ochr y cwrt cosbi.
Roedd Airbus ym mhellach ar y blaen wedi hanner awr, gyda Field yn chwarae’i ran eto. Cafodd ei lorio gan Shane Sutton cyn taro’r trawst gyda’r gic rydd ganlynol; disgynnodd y bêl i Ian Kearney yn y diwedd gan wyro i gefn y rhwyd.
Roedd hi’n ymddangos y byddai Airbus yn anelu am yr ystafell newid gyda dwy gôl o fantais felly ond newidiodd hynny yn eiliadau olaf yr hanner cyntaf wrth i Craig Williams dwyllo pawb trwy ergydio i’r gornel isaf yn hytrach na chroesi o gic rydd ar gornel y cwrt cosbi.
Ail Hanner
Gwaethygodd y gwynt a’r glaw yn yr ail gyfnod gan wneud creu cyfleoedd yn anodd iawn.
Y Drenewydd wnaeth ymdopi orau ac fe wyrodd ergyd gan Andy Jones heibio’r postyn funud yn unig cyn iddo unioni’r sgôr.
Peniodd Luke Boundford groesiad hir yn ôl ar draws y cwrt chwech i gyfeiriad Jones a phlymiodd yntau i ganol y mwd i’w rhwydo â’i ben.
Daeth y ddau dîm yn agos wedi hynny, gyda Michael Roddy’n ergydio dros y trawst i Airbus a Williams yn dod yn agos gyda chic rydd arall i’r Drenewydd.
Yn y diwedd, mae’n debyg mai gêm gyfartal oedd y canlyniad teg. Mae’r canlyniad hwnnw yn cadw Airbus yn yr ail safle yn nhabl Uwch Gynghrair Cymru ond mae’r Drenewydd yn llithro un lle i’r pedwerydd safle oherwydd buddugoliaeth Bangor yn erbyn Lido Afan.
Ymateb
Chris Hughes, Rheolwr y Drenewydd:
“Roeddwn i wastad yn ffyddiog y byddem ni’n taro’n ôl. Fe newidiodd y gêm gyda gôl Craig [Williams] ar ddiwedd yr hanner cyntaf. Fe greon ni ddigon o gyfleoedd yn yr ail hanner ac efallai ein bod ni braidd yn anffodus i beidio ag ennill y gêm.”
“Wedi dweud hynny wrth chwarae yn erbyn tîm fel Airbus mae rhywun yn hapus gyda phwynt. Mae’n dweud llawer am gymeriad yr ystafell newid.”
Andy Preece, Cyfarwyddwr Pêl Droed Airbus:
“Roeddem ni mewn safle da i gymryd y tri phwynt ond fe wnaeth [James] Coates gamgymeriad ar gyfer y gôl gyntaf, ond mae o wedi bod yn wych y tymor hwn felly fe geith o honna.”
“Fe chwaraeon nhw’n wych yn yr ail hanner a’n rhoi ni o dan bwysau, felly mae’n rhaid rhoi clôd i’r Drenewydd heddiw mewn gwirionedd.”
.
Y Drenewydd
Tîm: Mullock, Williams, Sutton, Mills-Evans, Penk, Cook, Goodwin, Boundford, Evans (White 81′), Hearsey, Jones
Goliau: Williams 45’, Jones 67’
Cardiau Melyn: Mills-Evans 40’, Williams 60’
.
Airbus
Tîm: Coates, Rule, Pearson, Kearney, Short, Owen, Field, Roddy, Wade, Hart, Budrys
Goliau: Field 18’, Kearney 29’
Cardiau Melyn: Pearson 36’, Field 38’, Rule 44’, Roddy 79’
.
Torf: 223