Welling 1–1 Wrecsam

Cafodd Wrecsam gêm gyfartal wrth deithio i Ffordd Park View i herio Welling yn Uwch Gynghrair Skrill brynhawn Sadwrn.

Unionodd Johny Hunt i’r Dreigiau wedi i Harry Beautyman roi’r tîm cartref ar y blaen, gyda’r ddwy gôl yn dod cyn yr egwyl.

Roedd Welling ar y blaen wedi ychydig llai na hanner awr o chwarae diolch i beniad Beautyman o groesiad Kurtis Guthrie.

Ond parodd y fantais am lai na deg munud wrth i Hunt daro’n ôl i’r ymwelwyr o ogledd Cymru gydag ergyd dda o du allan i’r cwrt cosbi yn dilyn gwaith creu Robert Ogleby.

Wrecsam a gafodd y gorau o’r cyfleoedd wedi hynny ond bu rhaid i Andy Morrell a’i dîm fodloni ar bwynt.

Mae’r pwynt hwnnw yn ddigon i’w codi un lle i’r pedwerydd safle ar ddeg yn nhabl y Gyngres.

.

Welling

Tîm: Butcher, Franks, Hudson, Cargill, Vanderhyde, Beautyman (Bassele 66′), Clarke, Gallagher (Bergqvist 59′), Healy, Guthrie (Cumbers 63′), Lafayette

Gôl: Guthrie 29’

Cardiau Melyn: Gallagher 59’, Hudson 65’

.

Wrecsam

Tîm: Coughlin, Ashton, Wright (Clowes 34′), Artell, Hunt, Evans, Clarke, Carrington, Bishop (Morrell 87′), Ogleby, Ormerod (Anyinsah 70′)

Gôl: Hunt 38’

Cardiau Melyn: Ormerod 23’, Clarke 49’, Bishop 62’, Morrell 90’

.

Torf: 633