Lerpwl 3–1 Caerdydd
Cynyddodd y pwysau ar Malky Mackay wrth i Gaerdydd golli yn erbyn Lerpwl yn Anfield brynhawn Sadwrn.
Rhwydodd y tîm cartref dair cyn yr egwyl ac er i’r Adar Gleision wella wedi’r egwyl, colli fu eu hanes o flaen y perchenog, Vincent Tan.
Dechreuodd Caerdydd y gêm yn addawol ac roedd angen arbediad da gan Simon Mignolet i atal Craig Noone rhag agor y sgorio wedi chwarter awr.
Llwyr reolodd Lerpwl yr hanner cyntaf wedi hynny gan sgorio tair gôl yn ugain munud olaf yr hanner cyntaf.
Agorodd Luis Suárez y sgorio gyda foli daclus o groesiad Jordan Henderson wedi 25 munud.
Daeth Philippe Coutinho, Jon Flanagan a Raheem Sterling yn agos at ddyblu’r fantais wedi hynny ond daeth y postyn a David Marshall i’r adwy i’r Adar Gleision.
Fe ddaeth yr ail gôl serch hynny dri munud cyn yr egwyl pan greodd Suárez gôl hawdd i Sterling, ac roedd hi’n dair cyn hanner amser diolch i gôl orau’r gêm. Sodlodd Henderson y bêl i lwybr Suárez ar ochr y cwrt cosbi a chrymanodd yntau hi’n gelfydd i’r gornel isaf.
Dim ond un tîm oedd ynddi yn yr ail gyfnod wrth i Gaerdydd bupuro cwrt cosbi Lerpwl gyda pheli hir a chroesiadau.
Arweiniodd un o’r croesiadau hynny at gôl toc cyn yr awr pan beniodd Jordan Mutch gic rydd Peter Wittingham i gefn y rhwyd.
Ychydig o gyfleoedd clir a gafodd y Cymry wedi hynny. Gallai Steven Caulker fod wedi ennill cic o’r smotyn i’r ymwelwyr ond ar y cyfan amddiffynnodd Lerpwl yn gyfforddus.
Gallai Suárez fod wedi cwblhau ei hatric yn y pen arall ond tarodd ei gynnig cyntaf yn erbyn y postyn cyn i’r ail gael ei arbed gan Marshall.
Mae’r canlyniad yn cadw Caerdydd yn bymthegfed am y tro ac yn codi Lerpwl i frig y gynghrair dros dro o leiaf.
.
Lerpwl
Tîm: Mignolet, Johnson, Flanagan (Kelly 55′), Lucas, Skrtel, Sakho, Allen, Henderson, Suárez, Sterling, Coutinho (Agger 83′)
Goliau: Suárez 25’, 45’, Sterling 42’
Cardiau Melyn: Skertel 41’, Sterling 72’
.
Caerdydd
Tîm: Marshall, Théophile-Catherine, Taylor, Medel (Campbell 55′), Caulker, Turner, Noone, Mutch, Odemwingie (Kim 55′), Gunnarsson (Cornelius 80′), Whittingham
Gôl: Mutch 58’
.
Torf: 44,621