Ryan Giggs
Mae cyn-gapten Cymru, Ryan Giggs, wedi gwadu y bydd yn dychwelyd i’r tîm rhyngwladol yn chwaraewr neu hyfforddwr yn ystod y gêm fawr yn erbyn Lloegr yn hwyrach yn y mis.

Penderfynodd Ryan Giggs ymddeol o chwarae pêl-droed rhyngwladol yn 2007 er mwyn ymestyn ei yrfa gyda Man Utd.

Ond roedd yna awgrymiadau ei fod yn ystyried dychwelyd i’r lefel rhyngwladol dan reolwr newydd Cymru, Gary Speed.

Roedd Giggs eisoes wedi gwrthod y syniad o chwarae ond roedd yna adroddiadau ei fod yn barod i helpu hyfforddi’r garfan.

Ond mae’r Cymro bellach wedi dweud na fydd yn rhan o’r tîm hyfforddi ar gyfer y gêm ragbrofol yn Stadiwm y Mileniwm ar 26 Mawrth, ond ei fod yn awyddus i helpu Speed yn y dyfodol.

“Fe fydda’i lawr yna beth bynnag gyda fy nheulu. Felly fe fyddai’n siŵr o fynd i gael sgwrs gyda fe,” meddai Giggs.

“Dw i ddim yn credu y byddai’n rhan o’r tîm hyfforddi a fydda’i ddim yn fy esgidiau pêl droed chwaith. Ond fe fyddai’n ymweld â’r garfan cwpl o ddiwrnodau cyn y gêm.

“Dw i wedi chwarae gyda Gary ac r’yn ni eisiau’r un peth, sef tîm Cymreig llwyddiannus.”