Y Rhyl 0–0 Bangor

Cyfartal oedd hi rhwng y Rhyl a Bangor ar y Belle Vue yng ngêm fyw Sgorio yn Uwch Gynghrair Cymru brynhawn Sadwrn.

Cafwyd hanner cyntaf diflas a di sgôr ac er ei bod hi’n gêm lawer gwell wedi’r egwyl gorffennodd y gêm heb goliau hefyd.

Hanner Cyntaf

Bangor a gafodd y gorau o’r hanner cyntaf heb os ond ychydig iawn o gyfleoedd a grëwyd gan y ddau dîm.

Roedd hanner awr wedi mynd pan gafodd Jason Oswell gyfle gorau’r hanner i’r Rhyl ond er iddo guro’r gôl-geidwad, Lee Idzi, cafodd ei gynnig ei chlirio oddi ar y llinell.

Yn y pen arall fe beniodd Rob Jones gic rydd Sion Edwards dros y trawst. Yna, ddau funud cyn yr egwyl daeth Edwards yn agos gydag ergyd yn syth o gic rydd ond er ei bod hi’n anelu’n syth am y gornel uchaf fe wnaeth Alex Ramsay yn y gôl i’r Rhyl arbediad gwych.

Ail Hanner

Cafwyd dipyn mwy o gyffro yn yr ail gyfnod a chafodd Jamie Petrie ddau gyfle da i’r Dinasyddion o gwmpas yr awr. Cafodd ei gynnig cyntaf ei glirio oddi ar y llinell gan Ryan Astles a gwnaeth Ramsay arbediad da yn isel wrth ei bostyn agosaf i atal yr ail.

Yn y pen arall roedd eilyddion y Rhyl yn achosi problemau i Fangor. Peniodd Dave Forbes dros y trawst ac arbedodd Idzi gynnig Steve Lewis yn dilyn gwaith da ganddo ar y chwith.

Daeth cyfle gorau’r gêm heb os i Fangor ac i Chris Jones chwarter awr o’r diwedd pan adlamodd y bêl yn garedig iddo a’i roi’n rhydd un-ar-un ar y golwr, ond gwnaeth Ramsay yn wych unwaith eto i gadw llechen lân ei dîm.

Ceisiodd Lewis ennill cic o’r smotyn i’r Rhyl yn y munudau olaf ond yn hytrach na phwyntio at y smotyn fe estynnodd y dyfarnwr i’w boced i roi cerdyn melyn i’r blaenwr am dwyllo.

Ymateb

Rheolwr y Rhyl, Greg Strong:

“Rwyf yn hapus gyda’r gêm gyfartal yn dilyn ein perfformiad hanner cyntaf. Fe wnaethom ni wella dipyn yn yr ail hanner ond mae’n deg dweud mai nhw oedd y tîm gorau yn yr hanner cyntaf, ac rydym yn ddiolchar i ambell arbediad gwych gan Alex [Ramsay]”

Rheolwr Bangor, Nev Powell:

“Mae’n rhaid i rywun fod yn fodlon gyda phwynt oddi cartref ond ar y cyfan roeddem yn haeddu ei hennill hi fwy na thebyg.”

“Mae o’n le anodd i ddod iddo, fe wnaethom ni berfformio’n dda iawn a chwarae pêl droed deiniadol, ond fe gymerwn ni’r pwynt a symud ymlaen.”

Mae’r canlyniad yn gadael Bangor yn bedwerydd a’r Rhyl yn seithfed yn nhabl yr Uwch Gynghrair.

.

Y Rhyl

Tîm: Ramsay, Woodward, Rimmer, Astles, Benson, Powell (Laverty 46’), Walsh, Bathurst (Lewis 46’), McManus, Roberts, Oswell (Forbes 64’)

Cardiau Melyn: Oswell 64’, Ramsay 76’, Lewis 81’

.

Bangor

Tîm: Idzi, Walker, Johnson, Miley, Culshaw, Allen, R. Jones, R. Edwards, C. Jones (McDaid 90’), S. Edwards, Petrie

.

Torf: 869