Caerdydd 0–3 Arsenal
Sgoriodd Aaron Ramsey ddwy o dair gôl Arsenal wrth i’r tîm sydd ar frig yr Uwch Gynghrair guro Caerdydd yn Stadiwm y Ddinas brynhawn Sadwrn.
Agorodd cyn chwaraewr yr Adar Gleision y sgorio yn yr hanner cyntaf cyn cwblhau’r fuddugoliaeth yn eiliadau olaf y gêm wedi i Mathieu Flamini rwydo ail yr ymwelwyr.
Daeth cyfle cyntaf y gêm i Jack Wilshere yn dilyn gwaith da gan Ramsey ond tarodd ei ergyd yn erbyn y trawst.
Ychydig llai na hanner awr oedd wedi mynd pan agorodd Ramsey’r sgorio wedyn, wrth benio croesiad Mesut Ozil heibio i David Marshall yn y gôl.
Bu bron i Fraizer Campbell unioni pethau i’r Adar Gleision ond gwnaeth Wojciech Szczesny’n dda i atal ei beniad.
Sicrhawyd y fuddugoliaeth i’r ymwelwyr pan ddyblodd Flamini’r fantais bum munud o’r diwedd yn dilyn gwaith creu Ozil eto, ac fe goronodd Ramsey berfformiad personol da gyda’i ail gôl ef a thrydedd ei dîm yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.
Mae’r fuddugoliaeth yn ymestyn mantais Arsenal ar frig yr Uwch Gynghrair i saith pwynt, tra mae Caerdydd yn llithro i’r ail safle ar bymtheg yn dilyn buddugoliaethau i West Ham a Norwich.
.
Caerdydd
Tîm: Marshall, Théophile-Catherine, Taylor (Cornelius 87′), Medel, Caulker, Turner, Cowie, Mutch, Campbell (Odemwingie 65′), Kim (Noone 75′), Whittingham
.
Arsenal
Tîm: Szczesny, Sagna, Gibbs, Ramsey, Mertesacker, Koscielny, Wilshere (Monreal 81′), Arteta, Giroud, Özil (Walcott 91′), Cazorla (Flamini 77′)
Goliau: Ramsey 29’, 90’ Flamini 86’
Cardiau Melyn: Gibbs 33’, Arteta 79’, Ramsey 89’
.
Torf: 27,948