Jay Emmanuel-Thomas
Mae chwaraewr ar fenthyg Caerdydd, Jay Emmanuel-Thomas, wedi dweud bod y bydd angen perfformiad da arall ar yr Adar Glas os ydyn nhw am faeddu Hull ddydd Sadwrn.

Fe fydd yr Adar Glas yn gobeithio adeiladu ar eu buddugoliaeth yn erbyn Caerlŷr nos Fawrth gyda buddugoliaeth arall yn y Stadiwm KC yfory.

“Mae Hull yn chwarae’n dda ar hyn o bryd ac maen nhw’n dîm peryglus,” meddai Jay Emmanuel-Thomas.

“Ond fe fyddwn ni’n iawn os gallwn ni fynd yno a chwarae fel y gwnaethon ni yn erbyn Caerlŷr.

“Roedd Caerlŷr ar rediad da cyn nos Fawrth. Ond roedden ni wedi rheoli’r gêm, yn enwedig yn yr ail hanner.

“R’yn ni’n ffyddiog y gallwn ni ennill yn erbyn Hull hefyd os ydyn ni’n chwarae ar ein gorau.”

Dywedodd y chwaraewr nad yw wedi bod ar ei orau ers iddo ymuno gyda’r Adar Glas ar fenthyg oddi wrth Arsenal.

“Rwy’n credu mai gêm Caerlŷr oedd fy mherfformiad gorau ond roeddwn i wedi chwarae’n weddol yn erbyn Watford hefyd,” meddai.

“Rwy’n teimlo fy mod i’n cyfrannu mwy ‘r gemau erbyn hyn ac y daw’r gôl gyntaf yn fuan. Cyn gynted ag y byddai’n sgorio un fe fydd y llifddorau’n agor.

“Rwy’n mwynhau byw yma a chwarae pêl droed gyda grŵp da o fois.”