Airbus 2–0 Prestatyn
Cododd Airbus i frig Uwch Gynghrair Cymru gyda buddugoliaeth yn erbyn Prestatyn o flaen camerâu Sgorio ar brynhawn Sadwrn gwlyb ar y Maes Awyr.
Roedd y gêm yn ddi sgôr am wyth deg munud cyn i Tom Field agor y sgorio i’r tîm cartref ac fe ychwanegodd Ryan Wade ail ddeg munud yn ddiweddarach i ddiogelu’r fuddugoliaeth i Airbus.
Cafwyd dipyn mwy o gyfleoedd wedi’r egwyl a daeth un o’r rhai gorau i Brestatyn ac i Carl Murray wedi deg munud o’r ail gyfnod. Gwnaeth Murray yn dda i greu’r cyfle gyda rhediad cryf ond ergydiodd yn wantan yn syth at James Coates yn y gôl, ac yntau gyda Lee Hunt yn gymorth hefyd.
Cafodd Steve Jones gyfle da i Airbus yn y pen arall ond anelodd heibio’r postyn o chwe llath, a chafodd gôl berffaith iawn Chris Budrys ei hatal gan fod y dyfarnwr cynorthwyol yn meddwl fod y bêl wedi mynd allan cyn i Ryan Wade groesi iddo.
Yna, gyda’r munudau’n diflannu fe ddaeth y gôl i Airbus o’r diwedd gyda deg munud yn weddill – Field yn sgorio gydag ergyd isel gywir yn dilyn gwaith da ar y chwith gan James Owen.
Dyblodd Wade y fantais ym munud olaf y naw deg yn dilyn camgymeriad Chris Davies, a bu bron i Field ychwanegu trydedd wych gydag ymdrech haerllug o ddeugain llath a mwy.
Ymateb
Cyfarwyddwr pêl droed Airbus, Andy Preece:
“Roedd hi’n gêm anodd. Er clod i Brestatyn fe wnaethon nhw benderfynu eistedd yn ôl a gwneud pethau’n anodd i ni ac fe lwyddon nhw.”
“Felly roedd yn rhaid i ni fod yn amyneddgar, ac i fod yn deg fe gawson nhw gyfleoedd da wrth wrthymosod. Ond fe ddaeth y gôl i ni yn y diwedd ac fe gawsom ni ganlyniad gwych.”
Mae’r fuddugoliaeth yn codi Airbus i frig tabl yr Uwch Gynghrair gan i gêm Y Seintiau Newydd yng Nghaerfyrddin gael ei gohirio. Mae Prestatyn ar y llaw arall yn llithro o’r chwech uchaf i’r wythfed safle.
.
Airbus
Tîm: Coates, Pearson, Short, Bolland, Owen, Field, Rule, Roddy (Abbott 74’), Budrys, Wade (Edwards 92’), Jones (Hart 61’)
Goliau: Field 80’, Wade 90’
.
Prestatyn
Tîm: Hill-Dunt, Holmes, Lewis (Ellis 89’), Stones, Davies, Owen, Wilson, Stephens, Parkinson, Hunt, Murray
Cardiau Melyn: Owen 54’, Hunt 70’, Davies 90’
.
Torf: 257