Macclesfield 3–2 Wrecsam
Ildiodd Wrecsam gôl hwyr hwyr ym Moss Rose brynhawn Sadwrn wrth i Macclesfield ddwyn y pwyntiau i gyd mewn gêm lawn goliau yn Uwch Gynghrair Skrill.
Rhoddodd Connor Jennings y tîm cartref ar y blaen ddwywaith yn yr hanner cyntaf, ond roedd hi’n ymddangos fod Wrecsam yn mynd i gipio pwynt serch hynny gan iddynt unioni ddwywaith gyda goliau Joe Anyinsah a Brett Ormerod. Ond cwblhaodd Jennings ei hatric yn yr eiliadau olaf i dorri calonnau’r Dreigiau.
Ildiodd gôl-geidwad Wrecsam, Andy Coughlin, gic o’r smotyn wedi dim ond deuddeg eiliad ac roeddynt ar ei hôl hi diolch i ymdrech Jennings o ddeuddeg llath.
Roedd y Dreigiau’n gyfartal yn fuan wedyn diolch i gôl Anyinsah ond adferodd Jennings fantais ei dîm gyda’i ail gôl bum munud cyn yr egwyl.
Daeth Ormerod i’r cae yn lle Anyinsah chwarter awr o ddiwedd y gêm a chafodd yr hen ben argraff yn syth gan unioni’r sgôr o fewn ychydig funudau.
Byddai gêm gyfartal wedi bod yn ganlyniad go lew i’r tîm o ogledd Cymru ond bu rhaid iddynt ddychwelyd adref yn waglaw yn dilyn trydedd gôl Jennings a Macclesfield yn y trydydd munud o amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.
Mae Wrecsam yn llithro dri lle i’r ail safle ar bymtheg yn nhabl y Gyngres yn dilyn y canlyniad.
.
Macclesfield
Tîm: Taylor, Andrew, Williams, Halls, Martin, Whitaker (Holroyd 84′), Turnbull, Rowe, Jennings, Boden (Mackreth 69′), Winn (Kay 68′)
Goliau: Jennings 1’, 40’, 90’
Cardiau Melyn: Turnbull 85’, Jennings 88’
.
Wrecsam
Tîm: Coughlin, Clowes (Tomassen 32′), Artell, Ashton, Harris, Keates, Clarke, Anyinsah (Ormerod 76′), Carrington, Bishop (Cieslewicz 76′), Ogleby
Goliau: Anyinsah 13’, Ormerod 80’
.
Torf: 1,978