Fleetwood 4–1 Casnewydd

Cafodd Casnewydd eu cosbi’n drwm gan Fleetwood yn Stadiwm Highbury brynhawn Sadwrn wedi i Robbie Willmott dderbyn coch ym munudau cyntaf y gêm.

Ildiodd Willmott gic o’r smotyn a chael ei anfon o’r cae wedi dim ond tri munud yn y gêm rhwng dau dîm sydd tua brig yr Ail Adran. Sgoriodd Steven Schumacher o’r smotyn ac ychwanegodd Fleetwood dair arall mewn buddugoliaeth gyfforddus. Gôl gysur Chris Zebroski o’r smotyn oedd unig ymateb yr Alltudion.

Derbyniodd Willmott ei gerdyn coch am lawio ergyd Schumacher yn gynnar yn y gêm ac fe rwbiodd Schwaraewr canol cae Fleetwood yr halen yn y briw trwy sgorio o’r smotyn.

Gwibiodd Schumacher at ei hatric yn gynnar yn yr ail gyfnod. Sgoriodd ei ail dri munud wedi’r egwyl ac yna’i drydedd o’r smotyn toc cyn yr awr yn dilyn trosedd Ryan Jackson ar Charlie Taylor.

Rhoddodd Zebroski lygedyn o obaith i’r ymwelwyr yn fuan wedyn gyda gôl o’r smotyn yn dilyn llawiad Ryan Cresswell, ond adferodd David Ball y tair gôl o fantais i Fleetwood cyn diwedd y naw deg munud.

Mae’r canlyniad yn codi Fleetwood i frig tabl yr Ail Adran ond mae Casnewydd ar y llaw arall yn llithro dri lle i’r degfed safle.

.

Fleetwood

Tîm: Davies, Hogan (McLaughlin 43′), Pond, Schumacher, Taylor, Cresswell, Hughes, Murdoch, Ball (Dieseruvwe 83′), Sarcevic, Evans

Goliau: Schumacher [c.o.s.] 4’, 48’, [c.o.s.] 59’, Ball 78’

Cerdyn Melyn: Hogan 28’

.

Casnewydd

Tîm: Pidgeley, Jackson, Willmott, Oshilaja, Yakubu, Jones, Naylor (Crow 78′), Minshull Booked (Pipe 43′), Washington (Jolley 79′), Zebroski, Chapman

Gôl: Zebroski [c.o.s.] 71’

Cardiu Melyn: Minshull 17’, Chapman 45’, Jackson 60

Cerdyn Coch: Willmott 3’

.

Torf: 2,354