Colli 3-0 a wnaeth Casnewydd yn Rochdale ddoe, a hynny’n haeddiannol yn ôl eu rheolwr Justin Edinburgh.

“Fe fyddwn ni’n gweithio’n galed i sicrhau ein bod ni’n dysgu o hyn ac na fydd yn digwydd eto,” meddai.

Ar ôl cychwyn llwyddiannus yn eu tymor cyntaf yn Adran 2 o Gynghrair Pêl-droed Lloegr, hon oedd y drydedd gêm iddyn nhw ei cholli a’r gyntaf ers 14 Medi.

Yr unig dro y daeth Casnewydd yn agos i gael gôl oedd mewn cic o’r smotyn gan Adam Chapman awr i mewn i’r gêm – ond cafodd honno ei harbed.

Yn fuan wedyn sgoriodd Rochdale eu trydydd gôl.