Ar ôl bod ddwy gôl i lawr, llwyddodd Caerfyrddin i sicrhau gêm gyfartal 4-4 yn erbyn Bangor ddoe.

Mae hyn yn ailadrodd llwyddiant tebyg yn erbyn Cei Connah wythnos yn ôl pryd y gwnaethon nhw ddringo’u ffordd i gêm gyfartal 3-3 ar ôl bod dair gôl i lawr.

Roedd eu llwyddiant ddoe er gwaetha’r ffaith eu bod nhw un dyn yn fyr ar ôl i Chris Thomas gael cerdyn coch chwe munud i mewn i’r gêm.

Aeth Bangor ar y blaen gyda dwy gôl yn gynnar yn y gêm, ond llwyddodd Caerfyrddin i ddal i fyny â’r ymwelwyr erbyn i hanner awr ohoni fynd.  Gyda gôl arall i Bangor cyn hanner amser ac un arall ar ôl 76 munud, roedd hi’n ymddangos ei bod ar ben i Gaerfyrddin.

Fodd bynnag, bum munud cyn diwedd y gêm sgoriodd Corey Thomas gyda chic gosb, gyda Luke Cummings yn penio un arall i’r rhwyd yn yr eiliadau olaf.