Chris Coleman, rheolwr Cymru
Gallai Gwlad Belg ennill Cwpan y Byd y flwyddyn nesaf, yn ôl rheolwr Cymru, Chris Coleman, wrth ddarogan gêm galed i Gymru nos Fawrth.

Mae’n pwyso ar i chwaraewyr Cymru fod yn gwbl ddi-ofn yn erbyn tîm sydd eisoes wedi sicrhau eu lle yn Brasil ar ôl iddyn nhw guro Croatia.

“Nhw oedd y 40fed yn y byd pan wnaethon ni chwarae yn eu herbyn nhw gyntaf yng Nghaerdydd ar ddechrau’r ymgyrch – maen nhw bellach yn chweched,” meddai Chris Coleman.

“Mae ganddyn nhw gyfle gwirioneddol i ennill Cwpan y Byd. Maen nhw’n dîm da iawn.

“Mae am fod yn brawf anodd inni nos Fawrth.”

Mae’n cyfaddef na fyddai llawer o’i chwaraewyr yng ngharfan Cymru’n ddigon da i fod wedi cael eu dewis i dîm Gwlad Belg. Ond mae’n mynnu bod Aaron Ramsey yn eithriad ar ôl perfformiad rhagorol arall yn erbyn Macedonia nos Wener.

“Fe fyddwn i’n rhoi Aaron mewn unrhyw dîm oherwydd y ffordd y mae’n chwarae,” meddai. “Does dim un rheolwr na fyddai’n ei roi yn ei dîm i bob gêm.”