Birmingham 3–1 Abertawe
Mae’r deiliaid, Abertawe, allan o Gwpan y Gynghrair ar ôl colli yn erbyn Birmingham yn St Andrews nos Fercher.
Ennill y gystadleuaeth hon oedd uchafbwynt tymor yr Elyrch y flwyddyn ddiwethaf ond maent allan yn y drydedd rownd eleni wedi i’r tîm cartref sgorio tair gôl ail hanner yn eu herbyn heno.
Yn dilyn hanner cyntaf di sgôr fe aeth y tîm o’r Bencampwriaeth ar y blaen toc cyn yr awr. Peniodd Dan Burn groesiad Chris Burke heibio i Gerhard Tremmel.
Dyblwyd y fantais funudau’n ddiweddarach pan ddaeth Mitch Hancox o hyd i Matt Green cyn iddo yntau guro Tremmel.
Ac roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel ddeg munud o’r diwedd pan rwydodd Tom Adeyemi yn dilyn gwaith creu cyn chwaraewr Caerdydd, Burke, unwaith eto.
Wilfred Bony a ddaeth agosaf i Abertawe yn y naw deg munud cyntaf gyda pheniad yn erbyn y trawst yn yr hanner cyntaf, ac fe gafodd y gŵr o’r Iseldiroedd gôl gysur yn eiliadau olaf yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.
Siom i dîm Michael Laudrup felly ond digon o gystadlaethau eraill i dynnu sylw’r Elyrch y tymor hwn.
.
Birmingham
Tîm: Doyle, Robinson, Burn, Spector, Reilly, Hancox, Adeyemi, Caddis, Burke, Green, Ferguson (Shinnie 83′)
Goliau: Burn 57’, Green 61’, Adeyemi 81’
Cerdyn Melyn: Doyle 59’
.
Abertawe
Tîm: Tremmel, Amat, Taylor, Monk, Tiendalli, Britton, Shelvey (Canas 73′), Lamah (Routledge 82′), De Guzman (Vazquez 64′), Pozuelo, Bony
Gôl: Bony 90’
Cardiau Melyn: Britton 45’, Taylor 88’
.
Torf: 7,470