Peter Odemwingie (Helena Rubykova CCA 3.0)
Roedd rheolwr Caerdydd yn tynnu cysur heddiw o berfformiad ei dîm yn yr ail hanner wrth golli o 2-3 yn erbyn West Ham neithiwr yng Nghwpan Capital One.
Ac roedd gan Malky Mackay ganmoliaeth arbennig i’r ymosodwr Peter Odemwingie a sgoriodd eu hail gôl – ei gynta’ i’r clwb.
Colli yn yr hanner cynta’
Ond fe ddywedodd y rheolwr wrth wefan y clwb eu bod wedi colli pethau wrth ildio dwy gôl gynnar i West Ham.
“Roedden ni’n gysgod ohonon ni ein hunain yn yr hanner cyntaf, ond llwyddon ni i roi West Ham ar y droed ôl yn yr ail hanner, ac ni oedd yn edrych fwya’ tebyg i fynd ‘mlaen i ennill y gem,” meddai Mackay.
“Ro’ ni’n credu fod [Odemwingie] yn wych. Dydi o heb gael llawer o gemau dros y misoedd diwethaf, ond mae’n chwaraewr penigamp. Mae’n dangos ei ddoniau pan mae’n chwarae ac mae ganddo bellach wên ar ei wyneb.”