Neil Taylor (Gwefan Cymdeithas Bel-droed Cymru)
Mae Neil Taylor yn gobeithio dychwelyd i dîm Abertawe heno wedi anaf wrth iddyn nhw ddechrau amddiffyn Cwpan y Capital One yn Birmingham.

Mae’r cefnwr chwith rhyngwladol 24 oed newydd ddychwelyd ar ôl ers mis gydag anaf i’w glun a dim ond dwywaith y mae wedi chware’r tymor hwn, wrth i Ben Davies ddal ei afael ar y safle.

Ond gyda newidiadau i’r tîm yn debygol ar gyfer y gem yn St. Andrews heno, mae Taylor yn gobeithio y caiff ran i’w chwarae er mwyn cryfhau ei ffitrwydd.

“Mae wedi bod yn rhwystredig bod allan gyda’r anaf, ond dw i wedi llwyddo i wella ychydig yn gynt na’r disgwyl,” meddai Taylor wrth wefan y clwb.

“Gyda charfan o 22 chwaraewr, mae’n siawns i greu argraff ar gyfer pwy bynnag gaiff ei dewis, ond fe fydd hi’n gêm anodd gan fod Birmingham yn awyddus i drechu tîm o’r Uwch Gynghrair.”

Newidiadau ar y gweill

Awgrymodd rheolwr Abertawe, Michael Laudrup, y byddai newidiadau’n siŵr o ddigwydd, ond pwysleisiodd hefyd ei fod am ddewis tîm cryf er mwyn ceisio ennill y gem.

“Mae’r cwpan yn gyfle i dîmau llai brofi llwyddiant,” medd Laudrup. “Mae pawb yn dal i gofio’r teimlad o ddathlu ar ôl i ni drechu Bradford.”

“Hyd yn oed os byddwn ni’n gwneud newidiadau, fe fydd gyda ni dîm cryf o hyd oherwydd dyfnder y garfan.”

Un arall sy’n gobeithio cymryd rhan yw Gerhard Tremmel, yr ailddewis yn y gôl – fe chwaraeodd bob munud o’r gystadleuaeth wrth i Abertawe godi’r cwpan y llynedd.

“Mae’r atgofion hynny’n gwneud i mi awchu am dlws arall,” meddai Tremmel. “Dw i eisiau’r teimlad o godi cwpan o flaen torf fawr unwaith eto oherwydd roedd yn brofiad bythgofiadwy.”

Cadarnhaodd Laudrup y byddai Pablo Hernandez ag Ashley Williams yn colli’r gem oherwydd anafiadau.