Tottenham 1–0 Abertawe

Colli fu hanes Abertawe am yr ail wythnos yn olynol yn yr Uwch Gynghrair brynhawn Sul. Teithiodd tîm Michael Laudrup i White Hart Lane i herio Tottenham gan ddychwelyd yn waglaw yn dilyn cic o’r smotyn Roberto Saldado toc cyn yr awr.

Y tîm cartref a gafodd y gorau o’r hanner cyntaf. Methodd Paulinho dri cyfle da i’w rhoi ar y blaen a bu bron i Ashley Williams benio’r bêl i’w rwyd ei hun.

Roedd Jonjo Shelvey braidd yn ffodus i beidio ildio cic o’r smotyn yn yr hanner cyntaf ond dyna’n union a wnaeth y chwaraewr canol cae toc cyn yr awr pan loriodd Andros Townsend yn y cwrt cosbi. Cymerodd Soldado y gic gan guro Michel Vorm o ddeuddeg llath.

Fe bwysodd yr Elyrch wedi hynny ond yn ofer, wrth i Tottenham ddal eu gafael ar y tri phwynt yn gymharol gyfforddus. Mae’r canlyniad yn gadael Abertawe ar waelod y tabl wedi dwy gêm.

.

Tottenham

Tîm: Lloris, Walker, Rose, Vertonghen, Dawson, Paulinho, Capoue, Townsend (Sandro 88′), Dembele (Sigurdsson 64′), Chadli, Soldado (Defoe 81′)

Gôl: Soldado 58’ [c.o.s.]

CerdynMelyn: Soldado 76’

.

Abertawe

Tîm: Vorm, Chico, Williams, Rangel, Davies, Shelvey (Bony 69′), Pablo, Routledge (Pozuelo 59′), De Guzman, Canas, Michu

Cardiau Melyn: Davies 16’, Vorm 30’, Michu 40’ Williams 73’

.

Torf: 36,005