Kevin Nolan seliodd y fuddugoliaeth
West Ham 2 – 0 Caerdydd
Siom oedd gêm gyntaf Caerdydd yn Uwch Gynghrair Lloegr wrth iddynt golli o 2-0 ym Mharc Upton heddiw.
Sgoriodd Joe Cole yn yr hanner cyntaf, cyn i Kevin Nolan selio’r fuddugoliaeth yn yr ail.
Er i Peter Whittingham a Nick Maynard fynd yn agos ym munudau olaf y gêm, ychydig iawn o gyfleoedd a grewyd gan gan yr ymwelwyr a bydd hynny’n siomi eu rheolwr Malky Mackay.