Mae Abertawe wedi cytuno i arwyddo’r Sbaenwr Jose Canas am ddim.
Mae cytundeb Canas, sydd ar hyn o bryd yn chwarae i Real Betis, wedi dod i ben ac felly mae modd i’r Elyrch ei arwyddo heb dalu dim.
Mi fydd y chwaraewr canol cae 26 oed yn help mawr i’r Elyrch wrth iddyn nhw geisio cryfhau’r garfan cyn cystadlu yng nghynghrair Europa y tymor nesaf.
Laudrup eisiau ymosodwr
Mae’r rheolwr Michael Laudrup eisiau prynu ymosodwr o safon uchel i’r Elyrch wedi iddyn nhw werthu Danny Graham ym mis Ionawr, ac maenn nhw wedi bod yn ddibynnol ar y chwaraewr canol cae, Michu, i sgorio’r gôls ers hynny.