Aberystwyth 0–0 Y Drenewydd
Di sgôr oedd hi mewn gêm wael rhwng Aberystwyth a’r Drenewydd o flaen camerâu Sgorio ar Goedlan y Parc brynhawn Sadwrn.
Roedd y ddau dîm yn gobeithio am dri phwynt i godi o waelodion y tabl tuag at yr wythfed safle a doedd gêm gyfartal fawr o werth i’r naill dîm na’r llall. Ond ychydig o gyffro a gafwyd felly doedd fawr o syndod ei gweld hi’n gorffen yn ddi sgôr.
Y Gêm
Daeth y cyfle cyntaf i’r Drenewydd a Luke Boundford hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf ond anelodd ei foli ym mhell dros y trawst o chwe llath.
Yn y pen arall, llwyddodd Chris Venables i daro’r targed yn dilyn gwaith da gan Jordan Follows ond gwnaeth David Roberts yn y gôl yn dda iawn i arbed.
Roedd awgrym o lawio yn y cwrt cosbi gan Aberystwyth bum munud cyn yr egwyl ond ni chafwyd cic o’r smotyn a methodd capten yr ymwelwyr, Nicky Ward, gyfle da â’i ben yn eiliadau olaf yr hanner hefyd.
Doedd pethau fawr gwell wedi’r egwyl er i Gavin Cadwallader orfod clirio ymdrech Shane Sutton oddi ar y llinell wedi dim ond dau funud.
Ceisiodd Follows a Venables eu lwc wedi hynny gydag ergydion o ochr y cwrt cosbi ond roedd Roberts yn effro ar y ddau achlysur.
Daeth cyfle hwyr i Follows hefyd ond ceisiodd greu i Michael Walsh yn hytrach na phenio at y gôl a rhoddodd hynny gyfle i Roberts arbed.
Yr Ymateb
Rheolwr Aberystwyth, Tomi Morgan:
“Mwy na thebyg, gan ein bod ni’n chwarae gartre’ mae’n ddau bwynt wedi eu colli. Fe frwydron ni’n dda yn yr ail hanner, cael digon o feddiant, ond methu eu hagor nhw yn nhraean olaf y cae.”
“Gawsom ni ddau neu dri chyfle da ac fe wnaeth [David] Roberts un neu ddau arbediad da, ond fe fethon ni ganfod yr allwedd ’na i agor y drws.”
Rheolwr y Drenewydd, Bernard McNally:
“Doedd hi ddim mo’r gêm orau i’w gwylio. Ro’n i’n teimlo i ni gael y gorau o’r meddiant a rydy’n ni’n ceisio chwarae ychydig o bêl droed, ond rydyn ni braidd yn ddi-fin o flaen gôl.”
Mae’r canlyniad yn cadw’r Drenewydd yn yr unfed safle ar ddeg yn y tabl ac Aberystwyth gyda dau bwynt yn fwy yn y nawfed safle. Mae Lido Afan bellach yn sicr o orffen ar y gwaelod ond gall dau dîm ddisgyn os fydd dau dîm yn codi o’r cynghreiriau is.
.
Aberystwyth
Tîm: Lewis, S. Jones, Cadwallader, Thomas, Davies, Corbisiero, Carroll (Hughes 67’), Venables, Walsh, Follows, M. Jones
Cardiau Melyn: Carroll 51’, Thomas 75’, M. Jones 89’
.
Y Drenewydd
Tîm: Roberts, Penk, Mills-Evans, Worton, Sutton, Cook, Evans, Williams, Ward, Hearsey (Whitfield 70’), Boundford
Cardiau Melyn: Mills-Evans 55’, Sutton 60’
.
Torf: 289