Casnewydd 2–0 Alfreton

Mae gobaith main Casnewydd o sicrhau dyrchafiad uniongyrchol o Uwch Gynghrair y Blue Square yn fyw o hyd yn dilyn buddugoliaeth dros Alfreton ar Rodney Parade brynhawn Sadwrn.

Tra yr oedd Casnewydd yn ennill, colli yn Braintree fu hanes y tîm ar y brig, Mansfield, felly gyda dwy gêm ar ôl mae gan y Cymry obaith mathemategol o hyd i orffen ar y brig.

Roedd hi’n bwrw hen wragedd a ffyn yn Rodney Parade a bu rhaid oedi am ddeg munud ar ddechrau’r gêm gan fod un gôl yn fwy na’r llall! Mae Casnewydd yn rhannu’r cae gyda’r Dreigiau a chlwb rygbi Casnewydd, ond wedi dweud hynny, gêm y tîm pêl droed yn erbyn Macclesfield nos Iau oedd y digwyddiad diwethaf ar y cae.

Pan ddechreuodd y gêm o’r diwedd, Casnewydd lwyddodd orau i ymdopi â’r amodau gan reoli’r meddiant. Bu rhaid aros tan eiliadau olaf yr hanner cyntaf serch hynny am gôl agoriadol Christian Jolley.

Peniodd Byron Anhtony’r ail hanner ffordd trwy’r ail hanner yn dilyn croesiad Andy Sandell ac roedd y canlyniad yn ddiogel.

Yn y cyfamser, collodd Mansfield o 2-1 yn Braintree ac mae hynny yn rhoi llygedyn o obaith i Gasnewydd. Luton a Grimsby yw dwy gêm olaf yr Alltudion gyda Mansfield yn herio Henffordd a Wrecsam. Gall Kidderminster serch hynny roi diwedd ar obeithion Casnewydd gyda buddugoliaeth yn Wrecsam heno.

.

Casnewydd

Tîm: Pidgeley, Hughes, James, Yakubu (Anthony 54′), Pipe, Sandell, Flynn, Jolley (O’Connor 69′), Willmott, Gilbey (Donnelly 77′), Washington

Goliau: Jolley 45’, Anthony 67’

.

Alfreton

Tîm: Pickford, Law, Kempson, Bradley, Rose, Streete, Meadows, Hewitt (Franklin 69′), Clayton (Soares 62′), Arnold, Tomlinson (Taylor 62′)

.

Torf: 2,138