Mae Michel Vorm wedi dweud bod y siom o fod ar y fainc ar gyfer rownd derfynol Cwpan Capital One ddydd Sul diwethaf y tu ôl iddo erbyn hyn.

Mae’r gôl-geidwad o’r Iseldiroedd wedi’i gynnwys yn y tîm i herio Newcastle yn yr Uwch Gynghrair yn Stadiwm Liberty fory.

Roedd yn ddewis cyntaf Michael Laudrup hyd nes iddo ddioddef anaf ar ddechrau’r tymor, ac fe ildiodd ei le i’r Almaenwr, Gerhard Tremmel.

Ar ddechrau’r tymor hwn, pum gêm yn unig roedd Tremmel wedi’u chwarae i Abertawe.

Ond daeth i mewn i’r tîm ym mis Hydref a bu’n chwarae ym mron pob gêm ers hynny, ac eithrio Cwpan Capital One.

Roedd wedi’i gynnwys ar y fainc ddydd Sul diwethaf wrth i’r Elyrch guro Bradford o 5-0 i ennill eu cwpan gyntaf yn eu hanes.

Ildio pump a thalu’r pris

Yr wythnos flaenorol, roedd Vorm wedi ildio pum gôl yn erbyn Lerpwl yn Anfield.

Dywedodd Vorm: “Fel pob chwaraewr, byddwn i wedi bod wrth fy modd yn cael chwarae yn y ffeinal. Ond ro’n i’n gwybod ymhell cyn hynny y byddai Gerhard yn gwisgo’r menig.

“Ro’n i’n falch drosto gan nad yw e wedi chwarae cymaint â hynny yn ystod y ddau dymor diwethaf o’m hachos i, ac allai hynny ddim bod wedi bod yn hawdd, rwy’n siŵr.

“Ond roedd e’n haeddu ei gyfle gan ei fod e wedi gwneud cystal y tymor hwn.

“Mae e wedi profi’r hyn all e ei wneud ac roedd ganddo fe’r hawl i gael cytundeb newydd.”

Mae her yn wynebu Abertawe wrth iddyn nhw fynd ben-ben â Newcastle fory.

Mae Newcastle wedi ennill tair gêm allan o’r pedair diwethaf.